Theatr Ieuenctid Rwanda

15.09.2008

Mae straeon ingol dioddefwyr hil-laddiad Affrica yn cael eu cynrychioli drwy gerddoriaeth a dawns gan gynrychiolaeth o bobl ifanc o Rwanda.

Councillor Derek Vaughan

Bydd Africa's Hope, stori dorcalonnus am ddigwyddiadau a arweiniodd at farwolaeth mwy nag 800,000 o Rwandiaid, yr hyn a ddilynodd a'r ffordd i ddyfodol mwy sefydlog, yn cael ei pherfformio gan Grup Theatr Ieuenctid Mashirika i'r holl ddisgyblion uwchradd Blwyddyn Naw ddydd Iau, 18 Medi am 1.30pm yn Theatr y Dywysoges Frenhinol.

Yna bydd uwch swyddogion pob ysgol yn cael gwahoddiad i ymuno ag aelodau o'r grup ieuenctid, a wnaethant oll oresgyn hil-laddiad 1994, mewn gweithdy a fydd yn rhoi cyfle iddynt ddatblygu prosiectau i feithrin cysylltiadau rhwng y fwrdeistref sirol ac ysgolion yn Affrica.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Derek Vaughan, fod y digwyddiad yn helpu i ddathlu amrywiaeth diwylliannol.

"Mae'r cynhyrchiad hwn yn helpu i gyfleu'r neges i bobl ifanc y fwrdeistref na ddylid goddef hil-laddiad yn y byd heddiw," meddai. "Mae'r cast, serch hynny, yn hyrwyddo'r neges gadarnhaol bod yna obaith am y dyfodol.

"Mae cynyddu ymwybyddiaeth am ddigwyddiadau'r byd drwy'r gerddoriaeth a dawns yn ffordd ardderchog o addysgu pobl ifanc y fwrdeistref."

Cynhelir perfformiad am ddim i drigolion Castell-nedd Port Talbot yn Theatr y Dywysoges Frenhinol am 6.30pm.

Dyma'r perfformiad cyntaf mewn cyfres o weithgareddau sy'n dathlu amrywiaeth diwylliannol yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Y gobaith yw y bydd y digwyddiad yn ysgogi'r rhai sy'n cymryd rhan yn y Gynhadledd Ddinasyddiaeth Faerol flynyddol i gyd-weithio i feithrin cysylltiadau Â'u chymheiriaid yn Affrica.

Manylion y Dudalen


 
Footer Links DirectGov Preparing for Emergencies Valid CSS Valid Level A W3C-WAI Accessibility SOCITM Better Connected Valid XHTML 1.0 Strict