Larymau Cymunedol
Mae larymau cymunedol yn gyswllt ffôn brys ar gyfer pobl hŷn a’r
anabl. Mae’r gwasanaeth yn galluogi pobl i gysylltu â’r
gwasanaethau meddygol a brys yn gyflym ac yn ddibynadwy. Gall y
larwm gael ei ganu os na fydd person yn gallu cyrraedd y ffôn neu
os nad ydynt yn gallu siarad. Gall larymau cymunedol gael eu
defnyddio i wneud i unigolion deimlo’n fwy diogel ac yn rhyddhau eu
gofalwyr o rai o’u cyfrifoldebau.
Sut mae’n gweithio?
Os bydd argyfwng, efallai mai eich ffôn yw’r unig ffordd o gael
help. Gyda larwm cymunedol, mae help ar gael yn syth, hyd yn oed
oes yw’r ffôn allan o’ch cyrraedd. Bydd defnyddwyr y gwasanaeth yn
cael uned larwm cymunedol wedi’i gosod yn eu cartrefi. Mae’r uned
hon yn cael ei rheoli gan dlws sy’n cael ei wisgo o amgylch y gwddf
neu ar ddillad. Os yw’r defnyddiwr yn cwympo neu os oes angen
cymorth arno/arni, mae ef/hi’n gwasgu botwm ar y tlws. Drwy wneud
hyn, anfonir signal i’r ffôn, sy’n cysylltu â Chanolfan Reoli y
Larwm Cymunedol.
Mae Canolfan Reoli y Larwm Cymunedol ar agor 24 awr y dydd, 365
diwrnod y flwyddyn. Pan fyddant yn derbyn galwad, mae’r ganolfan yn
gallu adnabod yn syth pwy sy’n ffonio ac maent yn gallu darparu
manylion am y person gan gynnwys cysylltiadau angenrheidiol a hanes
meddygol. Os nad yw perthynas, ffrind neu gymydog yn gallu helpu,
bydd y gweithredydd yn cysylltu’n awtomatig ag un o’r gwasanaethau
brys.
A oes tâl?
Ar hyn o bryd, nid oes tâl am ddarparu larwm cymunedol pan fydd
defnyddwyr y gwasanaeth yn diwallu’r meini prawf.
Ond, ceir opsiwn hefyd o fod yn danysgrifiwr preifat os nad
ydych yn gymwys am y gwasanaeth drwy:
- Rentu cyfarpar y larwm yn breifat
- Prynu’r cyfarpar
- Talu tâl gwasanaeth bob chwarter
(Am ragor o wybodaeth am y costau hyn, cysylltwch â’r Ganolfan
Reoli ar 01792 791771)
Pwy allaf gysylltu ag ef?
Er mwyn holi am gael Larwm Cymunedol, cysylltwch â’ch swyddfa
ardal leol:
Swyddfa Port Talbot
(Ardaloedd Port Talbot a Dyffryn Afan)
12 Heol Talbot
Port Talbot
Ffôn: 01639 765500
Swyddfa Castell-nedd a Phontardawe
(Castell-nedd, Sgiwen, Cwm Dulais, Pontardawe, Cwm Tawe Uchaf a
Dyffryn Aman)
Canolfan Ddinesig
Castell-nedd
SA11 3QZ
Ffôn: 01639 765300
Os hoffech gael gwybod ynglŷn â bod yn danysgrifiwr preifat,
cysylltwch â’r
- Ganolfan Reoli ar 01792 648999.
Mae’r daflen hon hefyd ar gael mewn print bras, Braille ac ar
Gryno Ddisg neu Dâp.
Ffoniwch: 01639 763195 am gopïau.
Manylion y Dudalen
Diweddarwyd: 20.02.2009