Cynllun Achredu Tai Preifat ar Rent

Cyflwyniad

Mae cynllun achredu tai preifat ar rent yn fenter newydd gan GBS Castell-nedd Port Talbot a fydd yn cydnabod y tai yn y sector rhentu preifat sy'n cael eu cynnal a'u cadw'n dda.

Cyflwynir y cynllun er mwyn gwella ansawdd tai preifat ar rent ledled y Fwrdeistref Sirol.

Ceir nifer o fanteision i landlordiaid sy'n ymuno â'n cynllun fel mynediad i nwyddau a gwasanaeth rhatach gan gynnwys yswiriant adeiladau. Bydd landlordiaid eiddo achrededig hefyd yn hyderus bod eu heiddo'n bodloni ein safonau a byddant yn gallu hysbysebu'r ffaith honno.

Bydd y cynllun yn galluogi tenantiaid arfaethedig i nodi cartrefi o ansawdd da a fydd yn darparu llety parchus a diogel.

Bydd pob eiddo'n cael eu hachredu'n unigol ac ni fydd unrhyw gyfyngiad ar landlordiaid sy'n berchen ar rai eiddo achrededig a rhai heb eu hachredu. I fod yn rhan o'r cynllun eiddo, bydd disgwyl i chi gydymffurfio ag ystod o safonau sy'n cynnwys pethau fel diogelwch nwy a thrydan, cynnal a chadw cyffredinol, rhagofalon tân etc.

Mae'r cynllun yn un gwirfoddol, mae'r aelodaeth yn rhad ac am ddim ac mae'r Cyngor yn ymrwymedig i'ch cynorthwyo i fod yn landlord neu'n asiant rheoli eiddo achrededig.


Beth yw nodau'r cynllun achredu?

Nodau'r cynllun yw:

  • Annog a chefnogi landlordiaid i ddarparu llety ar rent o ansawdd da.
  • Cydnabod landlordiaid y mae eu heiddo'n cyrraedd y safon achredu.
  • Galluogi tenantiaid i wneud dewis synhwyrol wrth ddewis llety ar rent. 
  • Gweithio gyda landlordiaid er mwyn gwella safon cyffredinol llety preifat ar rent ym Mwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot. 
  • Gweithio mewn partneriaeth gydag asiantaethau eraill a chwmnïau lleol.

Beth yw'r manteision ar gyfer y landlordiaid?

  • Bydd y landlordiaid yn cael eu hadnabod am ddarparu llety o ansawdd da. 
  • Byddant yn gallu hysbysebu eu heiddo gan nodi eu bod yn cyrraedd y safon achredu. 
  • Byddant yn gallu gwneud cais am dystysgrif bond diogelwch. Mae hwn yn sicrhau bond neu flaen-dâl ar ran y tenant, drwy fenter a redir gan y Bwrdd Bond Dewis. 
  • Bydd y cyngor yn hysbysebu'r eiddo ar y rhestr llety preifat a rentir. 
  • Bydd y landlordiaid yn derbyn tystysgrif achredu y gallant ei harddangos yn eu heiddo. 
  • Byddant yn gymwys am ostyngiadau trwy drafodaeth gyda chwmnïau lleol sy'n darparu nwyddau a gwasanaethau a fydd yn eu cynorthwyo i gyrraedd y safon. 
  • Bydd y tenantiaid wedi cytuno i ddilyn siarter, sy'n esbonio eu cyfrifoldebau.

Beth yw'r manteision ar gyfer y tenantiaid?

  • Bydd y tenantiaid yn gallu gwneud dewis deallus am yr eiddo y maent yn dewis ei renti. 
  • Gallant adnabod eiddo sydd wedi cyrraedd y safonau perthnasol. 
  • Bydd y landlordiaid wedi cytuno i ddilyn y siarter, sy'n cynnwys darparu cytundeb tenantiaeth ysgrifenedig, a gwiriadau rheolaidd o'r cyflenwadau nwy a thrydan.

Sut mae achredu'n gweithio?

Er mwyn achredu eiddo, rhaid i'r landlord ddangos bod:

  • Yr eiddo'n cwrdd â'r safonau iechyd amgylcheddol cyfredol 
  • Gwasanaethau a chelfi'n cwrdd â'r gofynion diogelwch 
  • Rhaid iddo/ iddi ddangos ei fod/ ei bod yn cwrdd â'r meini prawf person addas.

I gael eich achredu, caiff yr eiddo ei archwilio er mwyn cyrraedd safonau uchel y cynllun. Bydd tystysgrifau sy'n ymwneud â'r nwy ac offer perthnasol eraill wedi cael eu derbyn a'u gwirio. Bydd y landlord wedi tystio bod yr offer trydanol yn ddiogel a'r celfi'n cyrraedd y rheoliadau tân cyfredol. Bydd y landlord wedi cyrraedd y meini prawf person addas ac wedi llofnodi datganiad sy'n cadarnhau nad oes ganddo /ganddi unrhyw euogfarnau blaenorol perthnasol.

Gall y Cyngor ond sicrhau bod yr eiddo a'r landlord yn cyrraedd y safon achredu ar ddiwrnod yr achredu.

  • Safon yr Eiddo

Dyma'r safon y mae'n rhaid i'r eiddo ei chyflawni er mwyn bod yn rhan o'r cynllun achredu.

  • Atgyweirio

Rhaid i'r eiddo fod yn addas i bobl fyw yno gan gydymffurfio â'r safonau cyfreithiol. Rhaid i'r adeilad fod yn strwythurol ddiogel, yn sych, o ansawdd da gyda'r holl amwynderau sylfaenol.

  • Rhagofalon Tân

Rhaid gosod larymau tân yn y cyntedd ac ar y landin mewn ty^ a feddiannir gan berson sengl neu deulu. Ceir gofynion ychwanegol ar gyfer tai amlbreswyliaeth sy'n cael eu rhentu. Gellir cael rhagor o wybodaeth ar y safonau hyn gan y 

Gwasanaeth Safonau Masnach ac Amgylcheddol,  Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot,  Canolfan Ddinesig Castell-nedd,  CASTELL-NEDD,  SA11 3QZ.
  • Tystysgrifau/Datganiadau

Bydd angen y tystysgrifau/ datganiadau canlynol:

  1. Tystysgrif diogelwch nwy safonol sy'n cynnwys yr holl beiriannau nwy yn yr eiddo. Rhaid i hon gael ei darparu gan gontractwr Corgi cofrestredig. Noder, mae'n ofyniad cyfreithiol cael gwiriad diogelwch nwy blynyddol a rhaid i'r dystysgrif diogelwch nwy fod ar gael i bob tenant ei gweld.
  2. Datganiad a arwyddwyd gan y landlord i gadarnhau bod y gosodiadau trydanol yn ddiogel. Mewn rhai achosion, efallai y bydd angen adroddiad diogelwch trydanol.
  3. Datganiad a arwyddwyd gan y landlord sy'n cadarnhau bod unrhyw gelfi a ddarperir yn y denantiaeth yn cwrdd â Rheoliadau Celfi (Diogelwch Tân) 1988.

Meini prawf person addas ar gyfer landlordiaid ac asiantiaid rheoli

Bydd euogfarnau ar gyfer y troseddau canlynol a rhai tebyg yn atal cymryd rhan yn y cynllun. 

  • Euogfarn am boenydio neu yrru tenant o'r ty^ o fewn y deng mlynedd diwethaf. 
  • Bydd methu â chydymffurfio â'r rhybudd statudol sy'n ymwneud â safon y rheoli neu atgyweirio a arweiniodd at erlyniad llwyddiannus, neu waith diffygiol o fewn y 5 mlynedd diwethaf. 
  • Euogfarn am dwyll budd-dâl tai, treth y cyngor neu nawdd cymdeithasol o fewn y deng mlynedd diwethaf. 
  • Euogfarn am anufudd-dod gyda'r rhybudd gorfodaeth cynllunio i eiddo preswyl o fewn y deng mlynedd diwethaf.

Siarter y Landlord a'r Tenant

Rydym yn annog landlordiaid i ddefnyddio'r siarter fel sail i berthynas landlord a thenant da. Gellir cael copi oddi wrth yr Adran Safonau Masnach a Iechyd Amgylcheddol.

Mae'r siarter yn egluro hawliau'r landlord a'r tenant. Nid yw'n ddogfen gyfreithiol ac nid yw'n effeithio ar hawliau y naill berson dan y gyfraith.


Am faint o amser y bydd y statws Achredu'n para?

Bydd y statws achredu'n para am dair blynedd. Ar ddiwedd y cyfnod hwn, gwneir gwiriadau pellach cyn adnewyddu'r statws achrededig.

Mewn rhai achosion, gall y landlord a'r eiddo gael eu tynnu o'r cynllun. Bydd hyn yn digwydd pan fydd:

  • Yr eiddo wedi gostwng o dan y Safon Eiddo (caniateir cwblhau gwaith atgyweirio os bydd yr ateb yn rhesymol), 
  • Tystysgrifau neu wybodaeth yn cael eu darparu i gefnogi cais sy'n dwyllodrus neu'n anghywir. § Y landlord yn torri'r meini prawf person addas.

Os torrir y safon Achredu, bydd y Cyngor yn ysgrifennu'n ffurfiol at y landlord gan ddileu'r eiddo a rhoi rhesymau dros y penderfyniad. Bydd gan y landlord hawl i apelio.


Beth yw cost ymuno â'r cynllun achredu?

Mae'r cynllun achredu yn rhad ac am ddim ac yn wirfoddol. Efallai bydd yn rhaid i'r landlord dalu am y gwaith i'r eiddo, er mwyn i'r eiddo gwrdd â'r safon angenrheidiol. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot wedi trafod gostyngiadau gyda chwmnïau lleol er mwyn cynorthwyo i leihau'r gost.


Sut gall tenant wirio bod landlord ac eiddo wedi cael eu hachredu

Cedwir cofrestr o'r holl landlordiaid ac eiddo achrededig yn Swyddfeydd y Cyngor yng Nghanolfan Ddinesig Castell-nedd ac mae ar gael i'r cyhoedd ei hastudio.


Sut gall landlord wneud cais am achrediad?

Logo Cynllun Achredu Tai Preifat ar RentOs ydych yn landlord gallwch wneud cais am achrediad drwy gwblhau'r ffurflen gais yn y pecyn hwn. Anfonwch y cais hwn i 

Is-adran Gwasanaethau Cymunedol,
Gwasanaeth Safonau Masnach a Iechyd Amgylcheddol,
Canolfan Ddinesig Castell-nedd,
CASTELL-NEDD
SA11 3QZ.

Gellir cael ffurflenni cais ychwanegol o'r cyfeiriad uchod neu drwy ffonio (01639) 685678.

Manylion y Dudalen

Diweddarwyd: 07.07.2010 am 15:48


 
Footer Links DirectGov Preparing for Emergencies Valid CSS Valid Level A W3C-WAI Accessibility SOCITM Better Connected Valid XHTML 1.0 Strict