Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot


Hepgor gwe-lywio | Bysellau Mynediad | Safle Graffegol | English |
Cymorth | Chwilio | A i Z | Cysylltu â Ni | Cwestiynau Cyffredinol y Gweithlu


Hafan | Trigolion | Busnes | Pobl Ddieithr

Busnes a'r Economi | Yr Amgylchedd | Iechyd a Gofal Cymdeithasol | Tai | Swyddi Gwag | Dysgu | Diwylliant a Hamdden | Byw | Gwasanaethau Cynllunio & Rheoli Adeiladu | Cludiant a Strydoedd | Eich Cyngor

| Cynllun Achredu Tai Preifat ar Rent
| Llythyr
| Requirements of the PRHAS
| Ffurflen Gais, Rhestr Wirio, Datganiadau
| Ffurflen Gais am Restr Lety
| Companies Supporting PRHAS
| Cysylltiadau

Hafan > Tai > Tai > Cynllun Achredu Tai Preifat ar

Cynllun Achredu Tai Preifat ar Rent

Cyflwyniad

Mae cynllun achredu tai preifat ar rent yn fenter newydd gan GBS Castell-nedd Port Talbot a fydd yn cydnabod y tai yn y sector rhentu preifat sy'n cael eu cynnal a'u cadw'n dda.

Cyflwynir y cynllun er mwyn gwella ansawdd tai preifat ar rent ledled y Fwrdeistref Sirol.

Ceir nifer o fanteision i landlordiaid sy'n ymuno â'n cynllun fel mynediad i nwyddau a gwasanaeth rhatach gan gynnwys yswiriant adeiladau. Bydd landlordiaid eiddo achrededig hefyd yn hyderus bod eu heiddo'n bodloni ein safonau a byddant yn gallu hysbysebu'r ffaith honno.

Bydd y cynllun yn galluogi tenantiaid arfaethedig i nodi cartrefi o ansawdd da a fydd yn darparu llety parchus a diogel.

Bydd pob eiddo'n cael eu hachredu'n unigol ac ni fydd unrhyw gyfyngiad ar landlordiaid sy'n berchen ar rai eiddo achrededig a rhai heb eu hachredu. I fod yn rhan o'r cynllun eiddo, bydd disgwyl i chi gydymffurfio ag ystod o safonau sy'n cynnwys pethau fel diogelwch nwy a thrydan, cynnal a chadw cyffredinol, rhagofalon tân etc.

Mae'r cynllun yn un gwirfoddol, mae'r aelodaeth yn rhad ac am ddim ac mae'r Cyngor yn ymrwymedig i'ch cynorthwyo i fod yn landlord neu'n asiant rheoli eiddo achrededig.


Beth yw nodau'r cynllun achredu?

Nodau'r cynllun yw:


Beth yw'r manteision ar gyfer y landlordiaid?


Beth yw'r manteision ar gyfer y tenantiaid?


Sut mae achredu'n gweithio?

Er mwyn achredu eiddo, rhaid i'r landlord ddangos bod:

I gael eich achredu, caiff yr eiddo ei archwilio er mwyn cyrraedd safonau uchel y cynllun. Bydd tystysgrifau sy'n ymwneud â'r nwy ac offer perthnasol eraill wedi cael eu derbyn a'u gwirio. Bydd y landlord wedi tystio bod yr offer trydanol yn ddiogel a'r celfi'n cyrraedd y rheoliadau tân cyfredol. Bydd y landlord wedi cyrraedd y meini prawf person addas ac wedi llofnodi datganiad sy'n cadarnhau nad oes ganddo /ganddi unrhyw euogfarnau blaenorol perthnasol.

Gall y Cyngor ond sicrhau bod yr eiddo a'r landlord yn cyrraedd y safon achredu ar ddiwrnod yr achredu.

Dyma'r safon y mae'n rhaid i'r eiddo ei chyflawni er mwyn bod yn rhan o'r cynllun achredu.

Rhaid i'r eiddo fod yn addas i bobl fyw yno gan gydymffurfio â'r safonau cyfreithiol. Rhaid i'r adeilad fod yn strwythurol ddiogel, yn sych, o ansawdd da gyda'r holl amwynderau sylfaenol.

Rhaid gosod larymau tân yn y cyntedd ac ar y landin mewn ty^ a feddiannir gan berson sengl neu deulu. Ceir gofynion ychwanegol ar gyfer tai amlbreswyliaeth sy'n cael eu rhentu. Gellir cael rhagor o wybodaeth ar y safonau hyn gan y 

Gwasanaeth Safonau Masnach ac Amgylcheddol,  Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot,  Canolfan Ddinesig Castell-nedd,  CASTELL-NEDD,  SA11 3QZ.

Bydd angen y tystysgrifau/ datganiadau canlynol:

  1. Tystysgrif diogelwch nwy safonol sy'n cynnwys yr holl beiriannau nwy yn yr eiddo. Rhaid i hon gael ei darparu gan gontractwr Corgi cofrestredig. Noder, mae'n ofyniad cyfreithiol cael gwiriad diogelwch nwy blynyddol a rhaid i'r dystysgrif diogelwch nwy fod ar gael i bob tenant ei gweld.
  2. Datganiad a arwyddwyd gan y landlord i gadarnhau bod y gosodiadau trydanol yn ddiogel. Mewn rhai achosion, efallai y bydd angen adroddiad diogelwch trydanol.
  3. Datganiad a arwyddwyd gan y landlord sy'n cadarnhau bod unrhyw gelfi a ddarperir yn y denantiaeth yn cwrdd â Rheoliadau Celfi (Diogelwch Tân) 1988.

Meini prawf person addas ar gyfer landlordiaid ac asiantiaid rheoli

Bydd euogfarnau ar gyfer y troseddau canlynol a rhai tebyg yn atal cymryd rhan yn y cynllun. 


Siarter y Landlord a'r Tenant

Rydym yn annog landlordiaid i ddefnyddio'r siarter fel sail i berthynas landlord a thenant da. Gellir cael copi oddi wrth yr Adran Safonau Masnach a Iechyd Amgylcheddol.

Mae'r siarter yn egluro hawliau'r landlord a'r tenant. Nid yw'n ddogfen gyfreithiol ac nid yw'n effeithio ar hawliau y naill berson dan y gyfraith.


Am faint o amser y bydd y statws Achredu'n para?

Bydd y statws achredu'n para am dair blynedd. Ar ddiwedd y cyfnod hwn, gwneir gwiriadau pellach cyn adnewyddu'r statws achrededig.

Mewn rhai achosion, gall y landlord a'r eiddo gael eu tynnu o'r cynllun. Bydd hyn yn digwydd pan fydd:

Os torrir y safon Achredu, bydd y Cyngor yn ysgrifennu'n ffurfiol at y landlord gan ddileu'r eiddo a rhoi rhesymau dros y penderfyniad. Bydd gan y landlord hawl i apelio.


Beth yw cost ymuno â'r cynllun achredu?

Mae'r cynllun achredu yn rhad ac am ddim ac yn wirfoddol. Efallai bydd yn rhaid i'r landlord dalu am y gwaith i'r eiddo, er mwyn i'r eiddo gwrdd â'r safon angenrheidiol. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot wedi trafod gostyngiadau gyda chwmnïau lleol er mwyn cynorthwyo i leihau'r gost.


Sut gall tenant wirio bod landlord ac eiddo wedi cael eu hachredu

Cedwir cofrestr o'r holl landlordiaid ac eiddo achrededig yn Swyddfeydd y Cyngor yng Nghanolfan Ddinesig Castell-nedd ac mae ar gael i'r cyhoedd ei hastudio.


Sut gall landlord wneud cais am achrediad?

Os ydych yn landlord gallwch wneud cais am achrediad drwy gwblhau'r ffurflen gais yn y pecyn hwn. Anfonwch y cais hwn i 

Is-adran Gwasanaethau Cymunedol,
Gwasanaeth Safonau Masnach a Iechyd Amgylcheddol,
Canolfan Ddinesig Castell-nedd,
CASTELL-NEDD
SA11 3QZ.

Gellir cael ffurflenni cais ychwanegol o'r cyfeiriad uchod neu drwy ffonio (01639) 685678.


Manylion y Dudalen

Diweddarwyd: 07.07.2010 am 15:48


Amodau a Thelerau | Datganiad Preifatrwydd | Hygyrchedd

Hawlfraint 1996-2009 Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot
Ffôn : 01639 686868 - Ffacs : 01639 763444 - e-bost : contactus@npt.gov.uk