Gwasanaeth Gweithgarwch Corfforol a Chwaraeon (G.G.C.Ch.)

Croeso i dudalennau Gweithgarwch Corfforol a Chwaraeon Castell-nedd Port Talbot. Yma, cewch wybodaeth am bob agwedd ar y prosiectau sydd ar gael gennym ar hyn o bryd yng Nghastell-nedd Port Talbot, o ennill cymhwyster addysgu mewn chwaraeon i'r newyddion diweddaraf am y prosiectau.

Gwybodaeth G.G.C.Ch.

Mae'r Gwasanaeth Gweithgarwch Corfforol a Chwaraeon yn ymroddedig i ddatblygu a hyrwyddo bywyd gwell i boblogaeth Castell-nedd Port Talbot trwy fyw'n actif.

Mae sawl prosiect / menter gan y Gwasanaeth Gweithgarwch Corfforol a Chwaraeon. Gan gydweithio mewn partneriaeth â Chyngor Chwaraeon Cymru, Cyrff Llywodraethol Chwaraeon a Chlybiau Sector Gwirfoddol, ein nod yw cynnig cyfleoedd i alluogi'r gymuned i fod yn fwy actif a mwynhau ffyrdd iachach o fyw.

Mae'r Tîm G.G.C.Ch. yn gallu:

  • Cynnig cyfleoedd i bawb gymryd rhan a mwynhau buddion Gweithgarwch Corfforol a Chwaraeon beth bynnag yw ei gefndir neu ei allu.
  • Cyflwyno addysg i hyfforddwyr ac ariannu gweithdai, datblygu cynlluniau datblygu chwaraeon a chynghori ar recriwtio a hyfforddi gwirfoddolwyr.

Byddwn yn cyfrannu tuag at wneud Castell-nedd Port Talbot yn lle gwych i fyw a gweithio ynddo a'i fwynhau trwy hwyluso datblygu cyfleoedd parhaol i gymryd rhan mewn chwaraeon a digwyddiadau hamdden a mabwysiadu ffyrdd iach o fyw yn y Sir.

Manylion y Dudalen

Diweddarwyd: 23.02.2010 am 14:03


 
Footer Links DirectGov Preparing for Emergencies Valid CSS Valid Level A W3C-WAI Accessibility SOCITM Better Connected Valid XHTML 1.0 Strict