Theatr y
Dywysoges Frenhinol


Theatr aml bwrpas drawiadol yw Theatr y Dywysoges Frenhinol. Mae
lle i 798 yn y theatr a chyfleusterau gwledda i hyd at 300.
Mae'r theatr yng nghanol Port Talbot, yn agos i gyffordd 41 yr
M4, gyda lleoedd parcio i 105 o geir a chysylltiadau rheilffordd a
bysus ardderchog.
Cynhaliwyd nifer o ddigwyddiadau amrywiol yn y theatr, gan
gynnwys pantomeim blynyddol Cwmni Theatr Owen Money, sioeau
proffesiynol ac amatur, sioeau plant, opera, sioeau cerdd,
nosweithiau comedi, seremonïau a chyflwyniadau, cynadleddau mawr,
seminarau, arddangosfeydd, ffeiriau, dawnsiau/ciniawau a
phriodasau.
Mae gan Theatr y Dywysoges Frenhinol dîm o reolwyr digwyddiadau
a fydd yn sicrhau bod pob digwyddiad a chynhadledd yn ddidrafferth.
O'r gwasanaeth technegol a staff y swyddfa docynnau i staff
marchnata proffesiynol, ni allai'ch digwyddiad fod mewn dwylo
gwell.
Manylion y Dudalen
Diweddarwyd: 17.08.2010 am 17:11