Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc

Rydym yn gweithio gyda phlant mewn angen er mwyn sicrhau eu bod yn cael y cymorth iawn i gyflawni eu potensial.

Gall plant fod mewn angen oherwydd:

  • nad ydynt yn debygol o gyrraedd eu potensial llawn o ran iechyd a datblygiad oni bai eu bod yn cael help gan yr awdurdod lleol
  • bod ganddynt anableddau a allai fod yn anableddau corfforol neu ddysgu, neu’r ddau.

Rydym yn cydweithio â sefydliadau eraill i gynllunio a gweithredu gwasanaethau.

Yn ein holl waith gyda phlant, rydym yn gofalu mai lles y plentyn sy’n dod gyntaf. Rydym hefyd yn credu bod gan bob plentyn yr hawl i gael ei drin/ thrin fel unigolyn unigryw, a’r hawl i fynegi barn a gwneud dewisiadau. Y dull gorau o ofalu am blant, fel arfer, yw yn eu cartrefi eu hunain gan eu teuluoed eu hunain. Hefyd mae ganddynt yr hawl i gael eu hamddiffyn rhag niwed.

Manylion y Dudalen

Diweddarwyd: 20.05.2008 am 11:17


 
Footer Links DirectGov Preparing for Emergencies Valid CSS Valid Level A W3C-WAI Accessibility SOCITM Better Connected Valid XHTML 1.0 Strict