Theatrau

Mae archebu tocynnau ar gyfer theatrau Castell-nedd Port Talbot yn haws nag erioed. Gallwch archebu ar-lein nawr.

NPT Theatres Logo

Croeso

Croeso i'n gwefan ar ei newydd wedd. Mae'n cynnwys yr holl wybodaeth am y celfyddydau ac adloniant yn ein tymor newydd yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Ar y wefan hon fe welwch gyfleoedd i fanteisio ar weithgareddau celfyddydol lleol, gwybodaeth am orielau ym Mhontardawe, a sinema ym Mhontardawe, ynghyd â digwyddiadau byw yn theatrau'r fwrdeistref sirol, Canolfan Celfyddydau Pontardawe a Theatr y Dywysoges Frenhinol Port Talbot.

Archebu tocynnau ar-lein. Mae'n bleser gennym gyhoeddi bod modd archebu eich tocynnau ar-lein bellach. Cliciwch ar y ddolen Archebu Ar-lein ar yr ochr chwith, neu defnyddiwch y rhestr o ddigwyddiadau yn yr adran Digwyddiadau.
Ceir gwybodaeth hefyd am y gwaith a wnaed gan wasanaeth datblygu'r celfyddydau gyda phobl ifanc ardal Castell-nedd Port Talbot.

Os ydych yn gynhyrchydd, yn asiant, neu'n sefydliad cymunedol, gwelwch fanylion technegol pob un o'r tair theatr.

Os ydych yn chwilio am rywle i drefnu priodas, cynhadledd neu ddigwyddiad arbennig arall, edrychwch ar yr hyn sydd gan ein theatrau i'w gynnig.

Gobeithio eich bod yn hoffi'n gwefan newydd ac y byddwch yn manteisio ar un o'n digwyddiadau cyffrous cyn bo hir!

Your browser does not support this object.

Please visit us on Facebook.

Dilynwch ni Facebook, Twitter a MySpace.

Facebook logo Twitter logo Myspace logo

Manylion y Dudalen

Diweddarwyd: 05.07.2010 am 10:00


 
Footer Links DirectGov Preparing for Emergencies Valid CSS Valid Level A W3C-WAI Accessibility SOCITM Better Connected Valid XHTML 1.0 Strict