Theatrau
Mae archebu tocynnau ar gyfer theatrau Castell-nedd Port Talbot
yn haws nag erioed. Gallwch archebu
ar-lein nawr.
Croeso
Croeso i'n gwefan ar ei newydd wedd. Mae'n cynnwys yr holl
wybodaeth am y celfyddydau ac adloniant yn ein tymor newydd yng
Nghastell-nedd Port Talbot.
Ar y wefan hon fe welwch gyfleoedd i fanteisio ar weithgareddau
celfyddydol lleol, gwybodaeth am orielau ym Mhontardawe, a sinema
ym Mhontardawe, ynghyd â digwyddiadau byw yn theatrau'r fwrdeistref
sirol, Canolfan Celfyddydau Pontardawe a
Theatr y Dywysoges Frenhinol Port
Talbot.
Archebu tocynnau ar-lein. Mae'n bleser gennym gyhoeddi bod modd
archebu eich tocynnau ar-lein bellach.
Cliciwch ar y ddolen Archebu Ar-lein ar yr ochr chwith, neu
defnyddiwch y rhestr o ddigwyddiadau yn yr adran
Digwyddiadau.
Ceir gwybodaeth hefyd am y gwaith a wnaed gan wasanaeth datblygu'r
celfyddydau gyda phobl ifanc ardal Castell-nedd Port Talbot.
Os ydych yn gynhyrchydd, yn asiant, neu'n sefydliad cymunedol,
gwelwch fanylion technegol pob un o'r tair theatr.
Os ydych yn chwilio am rywle i drefnu priodas, cynhadledd neu
ddigwyddiad arbennig arall, edrychwch ar yr hyn sydd gan ein
theatrau i'w gynnig.
Gobeithio eich bod yn hoffi'n gwefan newydd ac y byddwch yn
manteisio ar un o'n digwyddiadau cyffrous cyn bo hir!
Dilynwch ni
Facebook, Twitter a MySpace.
Manylion y Dudalen
Diweddarwyd: 17.08.2010 am 16:41