WaterfallTeithiau Cerdded ym mhob tymor yn ardal Castell-nedd Port Talbot

Nid yw’n syndod bod y rhan hon o Gymru yn hafan i gerddwyr. Mae dros ddau draean o’n hardal yn gefn gwlad prydferth - o fryniau coedwigog i ddyffrynnoedd afonydd.

Beth bynnag eich oed neu eich ffitrwydd, os ydych am dreulio awr neu ddiwrnod cyfan yn cerdded mae gennym rywbeth i chi. O deithiau cerdded ar hyd rhaeadrau a llwybrau tynnu, i’r promenâd glan môr a hawliau tramwy cefn gwlad.

Beach

Y gwanwyn

Iamge of People Walking by a StreamMae rheswm da dros i ni gael ein hadnabod fel Gwlad y Sgydau. Nid oes rhaeadrau mwy trawiadol yn unman yng Nghymru na’r rhai a geir yma yng Nghastell-nedd Port Talbot.

A pha gyfnod gwell i archwilio’r rhaeadrau na’r gwanwyn, pan mae glaw y gaeaf wedi chwyddo’r afonydd? Ewch am daith i Fro Nedd, Melincwrt, Rhaeadrau Aberdulais, Glyn Cwm Du neu Nedd Fechan a’u darganfod drosoch chi’ch hun.

Gweler un o’n prif raeadrau yng nghefn y daflen hon - Melincwrt. Yma mae’r dwˆr yn taranu i lawr am 80 troedfedd i lawr y dyffryn.

I gael rhestr lawn o deithiau cerdded ar hyd y rhaeadrau, cyfeiriwch at y canllaw ‘Waterfall Walks’ sydd ar gael gan Ganolfan Gwybodaeth i Dwristiaid Rhaeadrau Aberdulais.

Rhybudd - Mae angen gofal apharatoi cywir cyn ac yn ystod eich taith gerdded mewn perthynas â’r teithiau yn y daflen hon. Gwiriwch gyda staff yn y Ganolfan Gwybodaeth i Dwristiaid neu Ganolfan Rhaeadrau cyn mentro allan.

Yr haf

Image of people hikingBeth am dro bach hamddenol arhyd y promenâd ar Draeth Aberafan? Mae llwybrau cerddeda seiclo penodedig yn cynnig golygfeydd rhagorol dros arfordir Bae Abertawe.

Mae gan Aberafan un o draethau tywod hiraf Cymru hefyd ynogystal â phwll chwarae dwˆr sblash a maes chwarae antur.

Mae’r promenâd a’i gyfleusterau i ymwelwyr yn ei wneud yn lle delfrydol i bob oed i fynd am dro gydol y flwyddyn

Yr hydref

Mae Parc Fforest Afan yn lle prydferth ym mhob tymor. Ond yn yr hydref mae’n troi’n un o dirluniau mwyaf dramatig Cymru.

Mae Parc y Fforest, a adwaenir fel ‘Y Swistir Fach’ gan bobl leol, yn cynnig golygfeydd anhygoel dros Benrhyn Gwˆyr, Ynys Wair a Bannau Brycheiniog.

Mae amrywiaeth o deithiau cerdded sydd wedi’u dynodi gan arwyddion o wahanol hyd sy’n addas are gyfer pob lefel o ffitrwydd.

Gweler ein teithiau cerdded gorau ar gyfer Parc Fforest Afan a Glyncorrwg wedi’u rhestru yng nghefn y canllaw hwn.

Am fwy o deithiau cerdded ym Mharc Fforest Afan cysylltwch â’r Ganolfan Ymwelwyr ar 01639 850564.

Y gaeaf

Mae’r tymhorau yn cael effaith ddramatig ar ein tirluniau yma yng Nghastell-nedd Port Talbot. Am daith aeafol syml ar hyd llwybr hardd, dilynwch y llwybr tynnu o Ganol Tref Pontardawe.

I gael gwybod mwy gweler manylion Taith Cwm Du.

Manylion y Dudalen

Diweddarwyd: 08.07.2008 am 11:55


 
Footer Links DirectGov Preparing for Emergencies Valid CSS Valid Level A W3C-WAI Accessibility SOCITM Better Connected Valid XHTML 1.0 Strict