Pecyn gwerth £2.5 miliwn i Gastell-nedd Port Talbot
11.08.2009
Mae arian grant gwerth mwy na £2.5 miliwn wedi'i gymeradwyo i Gyngor Castell-nedd Port Talbot gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.
Bydd y pecyn yn galluogi'r awdurdod i ddechrau cyfres o gynlluniau yn ystod y flwyddyn ariannol gyfredol.
Mae'r arian yn rhan o grup o brosiectau a gyflwynwyd gan yr awdurdod yn unol  rhaglen Ardal Adfywio Strategol Cymoedd Gorllewinol y cynulliad (AAS) gyda'r nod o dargedu arian adfywio i'r ardaloedd lle mae ei angen fwyaf.
Bydd y fenter yn targedu amddifadedd cymdeithasol ac economaidd drwy gynlluniau wedi'u dylunio i wella lefel sgiliau, cynyddu cyflogaeth a gweithgaredd economaidd a dod  chymunedau at ei gilydd.
Yn wreiddiol bydd Menter y Cymoedd Gorllewinol yn rhedeg o 2009 tan 2012.
Mae'r cynlluniau sydd wedi'u cymeradwyo eisoes yn cynnwys Canolfan Hyfforddiant Glyn-nedd a Gweithdy DOVE a phrosiectau gwelliannau amgylcheddol mewn rhai o gymunedau'r cymoedd. Mae cynlluniau pellach yn cael eu hasesu a bydd manylion llawn am y prosiectau yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt dderbyn cymeradwyaeth y Cynulliad.
Bydd y cyngor, ynghyd  Llywodraeth y Cynulliad a grwpiau cymunedol lleol, yn gweithio'n galed dros y misoedd nesaf i gwblhau'r cynllunio a dechrau'r gwaith.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, y cynghorydd Ali Thomas, "Dylai pawb yn y cymoedd groesawi'r fenter hon gan y Cynulliad.
"Bydd y prosiectau'n rhoi hwb mawr i rai o ardaloedd mwyaf difreintiedig de Cymru, ac oherwydd bydd y fenter yn rhedeg am o leiaf dwy flynedd arall, bydd yn rhoi'r cyfle i ni wneud gwahaniaeth parhaol i ansawdd bywyd yng nghymunedau'n cymoedd."
Dywedodd Leighton Andrews, y Dirprwy Weinidog dros Adfywio, fod creu AAS wedi rhoi ffocws strategol sy'n cynnig cyfle go iawn i fynd i'r afael Â'r problemau cymdeithasol ac economaidd sy'n difetha nifer o gymunedau yn yr ardal ar hyn o bryd.
"Rwy'n falch ein bod yn gallu cefnogi nifer o brosiectau yng Nghastell-nedd Port Talbot sydd wedi'u llunio i fynd i'r afael  materion sgiliau a hyfforddiant, yn ogystal  helpu i wella ansawdd bywyd pobl leol drwy welliannau amgylcheddol."