Eich Cyngor
Pennaeth Newydd i'r Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc
25.08.2006
Bydd Pennaeth newydd Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc yng Nghastell-nedd Port Talbot yn cychwyn yn ei swydd ar unwaith.

Pennaeth Newydd i'r Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc
Penodwyd Julie Rzezniczek i arwain gwasanaethau plant a phobl ifanc y fwrdeistref sirol.
Bydd ei chyfrifoldebau'n cynnwys arwain ar amddiffyn plant, plant sy'n derbyn gofal, maethu a mabwysiadu. Bydd gweithio tuag at gysylltiadau agosach gydag ysgolion ac asiantaethau iechyd i gyflwyno gwasanaeth mwy integredig i blant a theuluoedd hefyd yn flaenoriaeth.
Mae Julie ar hyn o bryd yn brif swyddog yn y gwasanaeth asesu a rheoli achosion. Yn ystod ei gyrfa mae hi wedi gweithio yn y sectorau gwirfoddol a statudol.
Mae wedi gweithio ym maes gwasanaethau cymdeithasol ers pedair blynedd ar ddeg. Daeth i Gastell-nedd Port Talbot ddeuddeng mlynedd yn Ôl fel gweithiwr cymdeithasol amddiffyn plant, a chafodd ei dyrchafu'n rheolwr tÎm anableddau gofal plant yn 2000.
Mae Julie wedi chwarae rhan bwysig wrth roi deddfwriaeth newydd ar waith ac mae ei chyfraniad at wasanaeth anableddau plant Castell-nedd Port Talbot wedi arwain ar arolygiad llwyddiannus i'r gwasanaethau hynny gan Arolygiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru.
Mae hefyd wedi arwain gweithrediad ymarferol y system integredig i blant yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.
Yn siarad ar Ôl ei phenodiad, meddai Julie, "Rwy'n falch iawn o gael y cyfle hwn i arwain a hybu parhad y gwaith cadarnhaol sy'n cael ei wneud gan y gwasanaethau plant a phobl ifanc yng Nghastell-nedd Port Talbot, yn ogystal  chyfrannu at yr agenda sy'n datblygu ar gyfer gwaith partneriaeth ar draws yr awdurdod.
"Ar y cyd Â'n hasiantaethau partner mae angen i ni weithio ar adeiladu teuluoedd cryf a chanlyniadau gwell i blant a phobl ifanc."
Ychwanegodd Prif Weithredwr Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Ken Sawyers, "Rwyf wrth fy modd bod Julie wedi llwyddo i gael ei phenodi'n Bennaeth Gwasanaethau Plant.
"Mae'r cyngor yn ymroddedig i sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn cael cynnig gwasanaethau sy'n amddiffyn eu hiechyd a'u lles.
"Dan arweiniad Julie, rwy'n hyderus y gallwn wella'r gwasanaethau a chyfleoedd plant, pobl ifanc a'u teuluoedd mewn bywyd.
"Rydym am sicrhau cychwyn da mewn bywyd a darparu man diogel i blant a phobl ifanc yn ein cymunedau, gan gefnogi rhieni a gofalwyr."