Daeth y diwydiant adeiladu yng Nghastell-nedd Port Talbot i'r amlwg yr wythnos hon.
03.02.2009
Gwahoddwyd adeiladwyr a datblygwyr i noson o ddathlu lle dewiswyd 34 enwebai ar gyfer y gwobrau.

Gwobr 025

Award 025 - Quote from C J Construction Ltd:Winner Public Buildings for South Wales Mining Museum Afan Argoed.

Building control award ceremony

Building control award ceremony

Building control award ceremony
Mae'r Seremoni Gwobrau Rheoli Adeiladu fawreddog yn ddigwyddiad blynyddol a gynhelir gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot.
Mae Gwobrau Rhagoriaeth Adeiladu RhAALl (Rheoli Adeiladu Awdurdodau Lleol) yn fenter genedlaethol sy'n gwobrwyo arfer adeiladu da.
Dyma'r chweched flwyddyn y mae'r gwobrau wedi cael eu cynnal, nid yn unig i hyrwyddo gwasanaeth rheoli adeiladu'r cyngor ond hefyd i annog safonau uchel o grefftwaith, rheoli ac iechyd a diogelwch yn y diwydiant.
Cynhaliwyd y digwyddiad yng Ngwesty Blanco's a chefnogwyd digwyddiad eleni gan Fairwood Fabrications, Lliw Building Supplies, Melin Energy Consultants a Gwesty Blanco's.
Mae sawl agwedd ar waith adeiladu'n cael eu hystyried gan arolygwyr adeiladu'r cyngor wrth benderfynu ar enwebeion. Materion megis:
" cydweithredu  rheoli adeiladu
" cydymffurfio  rheoliadau adeiladu
" rheoli ansawdd a chrefftwaith
" cyflymder cywiro diffygion
" amgylchedd y safle
" Iechyd a Diogelwch
" darpariaeth ar gyfer pobl ag anableddau
Cyflwynwyd naw gwobr ar gyfer naw categori ar wahÂn. Yr enillwyr oedd:
" estyniadau ac addasiadau i'r cartref - Wayne Tatchell
" trawsnewid cartrefi - Prestige Developments Ltd
" trawsnewidiadau masnachol - Jistcourt (De Cymru) Ltd
" tai newydd hyd at 10 uned - Michael Mainwaring
" tai newydd dros 10 uned - Ian Gorvett
" tai cymdeithasol/fforddiadwy - Hale Construction Ltd
" cynaladwyedd - Burmeister & Wain, Contractwyr Sgandinafaidd A/S, Aaldorg Energie technik A/S
" datblygiadau masnachol hyd at £2 filiwn - Ralph & Doherty Building Contractors Ltd
" adeiladau cyhoeddus - C J Construction Ltd
Bydd enillwyr lleol yn awr yn mynd ymlaen i rownd derfynol de Cymru, ac wedi hynny, os ydynt yn llwyddiannus, i'r Gwobrau Cenedlaethol yn Llundain yn hwyrach yn y flwyddyn.
Meddai Dirprwy Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, a oedd yn cyflwyno'r gwobrau i'r enillwyr, Aly Thomas "Mae'r gwobrau'n amlygu pwysigrwydd rheoli adeiladu wrth gyflawni safonau uchel o grefftwaith, diogelwch a lles yn ogystal  chydnabyddiaeth haeddiannol i weithwyr adeiladu proffesiynol yn ardal Castell-nedd Port Talbot.
"Rwy'n falch i weld adeiladwyr Castell-nedd Port Talbot ar flaen y gad o ran adeiladu. Hoffwn longyfarch yr holl enwebeion am eu safonau uchel o grefftwaith ac rwy'n dymuno'n dda iddynt yn y gwobrau rhanbarthol".
Meddai Pennaeth y Gwasanaethau Cynllunio, Geoff White, "Mae'r gwobrau hyn yn unigryw. Mae syrfewyr Rheoli Adeiladu yn enwebu gwaith adeiladu sydd wedi cyflawni rhagoriaeth ac maent yn cael eu beirniadu nid yn unig ar eu golwg, ond yn fwy pwysig, y prosesau sydd wrth wraidd yr holl beth. Dyma'r unig wobr o'i bath i fynd i'r afael  phob math o adeiladu".
Aeth y cynghorydd Thomas ymlaen i glodfori perthynas waith dda rhwng yr adran rheoli adeiladu a'r contractwyr adeiladu sy'n gweithio gyda'i gilydd yn effeithiol i ddatrys unrhyw broblemau sy'n codi.