Cyhoeddiad newydd i fusnesau gan y cyngor.

07.08.2009

Mae cyhoeddiad newydd wedi'i lansio gan y cyngor sy'n hyrwyddo Castell-nedd Port Talbot fel lleoliad perffaith i ddechrau, ehangu neu adleoli busnes.

Mae'r cyhoeddiad "Byd Busnes Castell-nedd Port Talbot" hefyd yn cynnwys CD-ROM gyda manylion dros 900 o gwmnïau, sy'n adnodd gwerthfawr i gefnogi busnesau i weithgareddau busnes a dod o hyd i gynnyrch a gwasanaethau lleol.

Tra bod y cyhoeddiad yn rhoi blas ar fuddsoddiadau sylweddol presennol a chynlluniau sy'n parhau i lunio dyfodol Castell-nedd Port Talbot sy'n ffynnu, mae'r CD-ROM yn rhoi cyfle gwych i fusnesau lleol hyrwyddo'u gwasanaethau.

Mae 'Byd Busnes Castell-nedd Port Talbot' yn cynnwys pytiau ar brosiectau datblygu sylweddol, gan gynnwys parciau busnes arobryn, adfywio canol trefi, gwelliannau i'r isadeiledd a chynlluniau uchelgeisiol i ddatblygu gweithgareddau hamdden a thwristiaeth.

Meddai Arweinydd y Cyngor, Ali Thomas, "Mae'r cyhoeddiad  hwn yn rhan o'n hymrwymiad i ddatblygu menter, hyrwyddo Castell-nedd Port Talbot fel lleoliad busnesau a chynyddu ymwybyddiaeth am gyfleoedd go iawn i fuddsoddwyr."

Enghraifft o gwmni cyfyngedig cyhoeddus lleol sy'n elwa ar ei leoliad ym Mharc Ynni Baglan yw'r cwmni arobryn Netalogue Plc.

Mae Netalogue yn arbenigo mewn darparu datrysiadau technoleg i gwmnïau sy'n masnachu ar-lein. Mae'r cwmni meddalwedd arloesol eisoes wedi gweithio ar rai o wefannau gorau'r byd gan gynnwys Dacta, unig ddosbarthwr Addysg Lego. Ewrop ac Archfarchnad Rygbi'r Gynghrair St Helens. Mae Netalogue Plc hefyd yn gwasanaethu sawl cleient sglodion glas.

Dywedodd y Rheolwr-gyfarwyddwr, Richard Condon, "Mae Castell-nedd Port Talbot yn lleoliad perffaith i'n prif swyddfa. Mae cysylltiadau ffyrdd a thrÊn i'r M4, Llundain a gweddill y DU yn ei gwneud hi'n hawdd iawn i gleientiaid, buddsoddwyr a staff ein cyrraedd.
 
"Rydym wedi mwynhau blwyddyn arall o ddatblygu ym Mhort Talbot. Gyda gwerthiannau i fyny 15%, rydym wedi parhau  thuedd y ddwy flynedd diwethaf o ddatblygu'r cwmni yn ystod amgylchiadau masnachu anodd."

"Rydym hefyd yn parhau i elwa ar y gefnogaeth gan dÎm gwasanaethau busnes y cyngor sy'n gweithio gyda ni i ddatblygu rhaglen amgylcheddol newydd a chyffrous a fydd yn cael effaith fyd-eang."

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, Ali Thomas, "Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi cael enw da am fod yn lle gwych i sefydlu busnes.

"Rydym yn benderfynol o barhau i ddatblygu menter leol, hyrwyddo'r fwrdeistref sirol fel lleoliad o'r radd flaenaf i fusnesau a dangos y llu o gyfleoedd sydd ar gael i fuddsoddwyr.

"Rwy'n annog pawb sydd  diddordeb mewn sefydlu busnes neu sy'n adleoli i ddod i siarad  ni. Mae popeth yn ei le er mwyn rhoi cefnogaeth ac anogaeth i gwmnïau."


 

Manylion y Dudalen


 
Footer Links DirectGov Preparing for Emergencies Valid CSS Valid Level A W3C-WAI Accessibility SOCITM Better Connected Valid XHTML 1.0 Strict