Llais y Cymunedau'n Arwain Adfywio'r Cymoedd

03.11.2009

Bu'r rownd ddiweddaraf o gyfarfodydd Strategaeth Cymoedd y Gorllewin a gynhaliwyd y mis diwethaf yn llwyddiant mawr.

Councillor Alun Thomas

Daeth dros 100 o bobl i'r digwyddiadau gyda'r hwyr i roi eu barn ar ba mor dda mae'r strategaeth yn gweithio a lle roeddent yn meddwl bod angen mwy o waith.

Mae amgylchiadau newidiol yn golygu bod angen adolygu strategaeth y cymoedd yn gyfnodol a chaiff preswylwyr a phobl eraill sydd  diddordeb gyfle i helpu i arwain ac adnabod prosiectau newydd i sicrhau bod cymunedau'r cymoedd yn parhau i gael 'Dyfodol Cadarnhaol'.

Aeth tÎm strategaeth y cymoedd allan ym mis Hydref, yn cwrdd Â'r cyhoedd mewn digwyddiadau ymgynghori yn holl gymunedau cymoedd Castell-nedd Port Talbot. Roeddent yn annog pobl i gydweithio Â'r Cyngor ar ddatblygu cynlluniau newydd ar gyfer y dyfodol a'u gwneud yn berthnasol i fywydau bob dydd pobl.

Meddai'r Cynghorydd Ali Thomas, Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, "Mae'r cyfarfodydd hyn yn ffordd werthfawr o gadw mewn cysylltiad  chymunedau. Rydym yn cydnabod bod newid parhaol yn bosibl dim ond gyda help a chefnogaeth llawer o sefydliadau gwahanol a chefnogaeth weithredol preswylwyr y cymoedd.

"Bydd yr wybodaeth a gasglwyd bellach yn cael ei defnyddio i ddatblygu syniadau prosiect ychwanegol ar gyfer Cynllun Gweithredu Strategaeth y Cymoedd i helpu i arwain datblygu hyd at 2015."

Y cam nesaf yn yr ymgynghoriad fydd ym mis Rhagfyr pan fydd modd gweld awgrymiadau ar gyfer prosiectau ar wefan y Cyngor.

Unwaith eto, caiff cymunedau a sefydliadau ddweud eu dweud cyn i restr derfynol gael ei hychwanegu at y strategaeth yn y flwyddyn newydd.

NODYN I'R GOLYGYDDION
I gofrestru ar gyfer diweddariadau, e-bostiwch valleys@npt.gov.uk

Manylion y Dudalen


 
Footer Links DirectGov Preparing for Emergencies Valid CSS Valid Level A W3C-WAI Accessibility SOCITM Better Connected Valid XHTML 1.0 Strict