Cynghorydd profiadol yw'r Dirprwy Arweinydd newydd
18.02.2010
Mae'r Cynghorydd Peter Rees wedi cael ei benodi'n Ddirpwy Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot.

Deputy Leader Cllr Peter Rees

Mae'r Cynghorydd Rees, sy'n cynrychioli ward De Castell-nedd, yn cynnal Portffolio'r Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Thai. Mae hefyd yn Hyrwyddwr y Cyngor Pobl Hŷn.
Mae Peter wedi gwasanaethu fel cynghorydd lleol am 19 blynedd, wedi'i ethol gyntaf i Gyngor Bwrdeistref Castell-nedd ym 1991.
Yn dilyn ad-drefnu llywodraeth leol ym 1996, fe'i etholwyd yn gynghorydd bwrdeistref sirol gyda Chyngor Castell-nedd Port Talbot.
Ers hynny, mae wedi dal sawl uwch swydd. Bu'n Aelod y Cabinet gyda chyfrifoldeb am lawer o bortffolios - Eiddo, Adnoddau Staffio a Chydraddoldebau (2003), Trafnidiaeth, Priffyrdd, Peirianneg a Gofal Stryd (2004), Gwasanaethau Corfforaethol (2006) a Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Thai (2008). Mae hefyd wedi gwasanaethu fel Cadeirydd y Pwyllgor PersonÉl (2003).
Meddai Ali Thomas, Arweinydd y Cyngor, "Mae Peter wedi bod yn aelod gwerthfawr o'r Cabinet, felly mae'n dod i'r swydd hon  phrofiad helaeth iawn.
"Rwy'n falch iawn dros Peter ac yn edrych ymlaen at weithio gydag ef yn ei rÔl newydd."
Ychwanegodd y Cynghorydd Rees, "Rwyf wrth fy modd bod gan fy nghydweithwyr yr hyder i roi'r swydd hon i mi ac rwy'n diolch iddynt am eu cefnogaeth.
"Maent yn ymwybodol o'm hymrwymiad a'm hanes blaenorol o ddarparu gwasanaethau ar gyfer trigolion Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot.
"Byddaf yn parhau i gynorthwyo'r arweinwyr wrth sicrhau bod Castell-nedd Port Talbot yn aros ymhlith y cynghorau gorau yng Nghymru."