Beicio yng Nghastell-nedd Port Talbot

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae CBSCNPT wedi bod wrthi'n ddiwyd yn ehangu ei rwydwaith llwybrau beicio ar y ffyrdd ac oddi ar y ffyrdd. Mae'r awdurdod yn awyddus i hybu beicio fel dewis arall ymarferol yn lle'r car ac i hybu ffyrdd iach o fyw a thwristiaeth werdd.

Ers sefydlu'r awdurdod ym mis Ebrill 1996, gwariwyd dros £1,000,000 o arian grant ar wneud llwybrau beicio. Gwariwyd y rhan fwyaf o'r arian yma ar ran CNPT o'r Llwybr Celtaidd (Llwybr 4 yr NCN). Llwybr beicio hir yw hwn sy'n cysylltu Cydweli a Chasnewydd, a grëwyd mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol eraill a Sustrans (elusen annibynnol sy'n hybu beicio ar draws y DU).

Bwriedir ehangu'r rhwydwaith o fewn CNPT. Bydd y prif lwybrau yng nghymoedd Tawe, Nedd ac Afan. Mae'r awdurdod yn ceisio cael arian grant o ffynonellau amrywiol i ddatblygu'r llwybrau hyn.

Manylion y Dudalen

Diweddarwyd: 13.11.2009 am 12:35


 
Footer Links DirectGov Preparing for Emergencies Valid CSS Valid Level A W3C-WAI Accessibility SOCITM Better Connected Valid XHTML 1.0 Strict