Diwylliant a Hamdden

Celfyddydau Cymunedol

Ein gweledigaeth:

Mae Gwasanaeth Datblygu Celfyddydau Cymunedol Castell-nedd Port Talbot am gynyddu proffil y celfyddydau drwy hybu a meithrin gweithgareddau celfyddydau creadigol, sy'n dod â phobl at ei gilydd, ac sy'n rhoi cyfle i gael profiadau a dysgu sgiliau newydd.

Trwy wneud hyn rydym yn gobeithio:

Sut a Pham y Celfyddydau?

Mae'r celfyddydau'n sylfaenol, maent yn rhan o fywyd bob dydd, ac rydym oll yn cael ein cyffwrdd ganddynt mewn rhyw fodd, boed wrth weld peintiad rydym ni'n ei hoffi mewn swyddfa, cael ein calonogi gan ein hoff gân ar y radio, neu ymlacio wrth wylio'r teledu neu ffilm. Gan amlaf, dydyn ni ddim yn ymwybodol o effaith y celfyddydau ar ein bywydau, ond wrth chwilio am gyswllt, gallant ein helpu i fynegi ein hunain, a dianc rhag tasgau cyffredin, cyfathrebu ag eraill a datblygu hunaniaeth.

Mae'r Celfyddydau'n cwmpasu, ond nid y ffurfiau canlynol yn unig:

            Dawns, Drama, Celfyddydau Gain, Celf 3D, Cerflunio, Cerddoriaeth, Llythrennedd, Barddoniaeth, Adrodd Storïau, Darlunio, Ffotograffiaeth,

            Gwydr, Syrcas, Ffilm, Radio a Theledu ac Animeiddio

Am fwy o wybodaeth am brosiectau datblygu'r celfyddydau cyfredol, am gefnogaeth ar gyfer eich prosiectau celfyddydau cymunedol chi ac am gyfleoedd cyfranogi, ffoniwch Swyddogion Datblygu'r Celfyddydau Cymunedol, Lynda Lawrence a Louise Linton, ar 01639 889907, neu e-bostiwch l.lawrence1@npt.gov.uk neu l.linton@npt.gov.uk

natural artmural at sandfields library