Cymunedau Yn GyntafWAG 4 colour logoCommunities First Logo

 

 

 

 

 

Efallai fod y fersiwn Cwmraeg yn dal i gael ei llunio, ac os felly carem ymddiheuro am yr anghyfleuster a'ch gwahodd i ddychwelyd yn nes ymlaen, pan fydd y tudalen yn gyflawn.

Beth yw Cymunedau'n Gyntaf?

Rhaglen dymor hir Llywodraeth Cynulliad Cymru yw Cymunedau'n Gyntaf sydd â'r nod o wella cyfleoedd ac ansawdd bywyd yn y rhan fwyaf o gymunedau difreintiedig yng Nghymru.

Sut mae'n gweithio?

Sefydlir partneriaeth Cymunedau'n Gyntaf ar gyfer pob ardal leol. Mae aelodau partneriaeth yn cynnwys cynghorwyr lleol a staff o asiantaethau statudol megis yr awdurdod lleol, y gwasanaeth tân neu'r heddlu; busnesau lleol, grwpiau a sefydliadau gwirfoddol megis y Cyngor Gwirfoddol Sirol; ac yn bwysicaf, preswylwyr lleol.

Mae'r bartneriaeth yn cyfarwyddo gwaith tîm o staff sy'n ymgynghori â'r gymuned i gael gwybod am y materion a'r blaenoriaethau lleol. Mae'r rhain wedi'u hysgrifennu mewn cynllun gweithredu lleol sy'n pennu prif nodau'r bartneriaeth a'r gwaith sydd ei angen i wella'r gymuned. Gellir lawrlwytho siart sefydliadol sy'n dangos strwythur staff Cymunedau'n Gyntaf yng Nghastell-nedd Port Talbot ar waelod y dudalen.

Beth mae'n ei wneud?

Mae partneriaeth Cymunedau'n Gyntaf yn gweithio i fynd i'r afael â'r materion sy'n angenrheidiol i wella ansawdd bywyd yn yr ardal leol, fel a nodwyd gan y gymuned leol. Er bod pob cymuned yn wahanol, mae'r materion hyn wedi'u grwpio'n eang mewn chwe thema gyffredin:

  • Tlodi Plant
  • Diogelwch Cymunedol
  • Addysg, Hyfforddiant a Sgiliau
  • Yr Amgylchedd
  • Iechyd a Lles
  • Swyddi, Busnes a Chreu Incwm

Mae'r bartneriaeth a'r tîm lleol wedyn yn cydweithio â phartneriaid i gyflwyno newidiadau yn yr ardal leol, gan gynnwys aelodau'r gymuned yn y broses gymaint ag y bo modd.

Ym mha ardaloedd mae Cymunedau'n Gyntaf yn gweithio?

Mae timau lleol Cymunedau'n Gyntaf yn gweithio mewn un ar ddeg ardal wahanol yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Ble mae fy swyddfa agosaf Cymunedau yn Gyntaf?

Sut dewiswyd yr ardaloedd hyn?

Defnyddir mesur ystadegol o'r enw Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) i gymharu pob ardal ar draws Cymru. Pan ddechreuodd y rhaglen yn 2002, roedd y rhan fwyaf o'r ardaloedd a ddewiswyd i fod yn rhan o Gymunedau'n Gyntaf wedi'u graddio ymhlith 100 uchaf MALlC 2000, er y nodwyd ardaloedd llai hefyd. Ar ôl diweddaru MALlC yn 2005, gwahoddwyd sawl ardal newydd i wneud cais am statws Cymunedau'n Gyntaf.

Manylion y Dudalen

Diweddarwyd: 12.08.2010 am 16:33


 
Footer Links DirectGov Preparing for Emergencies Valid CSS Valid Level A W3C-WAI Accessibility SOCITM Better Connected Valid XHTML 1.0 Strict