Gŵyl Gerddoriaeth a Chelfyddydau Margam 2010
4 - 31 Gorffenaf
Mae'n bleser gen i'ch croesawu i nawfed Ŵyl Margam, sydd wedi
tyfu'n un o ddigwyddiadau diwylliannol mwyaf Castell-nedd Port
Talbot. Rydym wrth ein boddau i gyhoeddi mai Corus, aelod o Tata
Steel, sy'n chwarae rôl flaenllaw wrth gefnogi'r gymuned leol, fydd
ein noddwyr unwaith eto eleni.
Yn dilyn ymlaen o'r llynedd, rydym yn parhau
â'r rhaglen ddigwyddiadau fisol a gynhelir ym mis Gorffennaf, ac
unwaith eto, yn ychwanegu rhai rhaglenni newydd a diddorol.
Ar y diwrnod agoriadol, bydd Diwrnod Marchnad
Margam, a fydd yn cynnwys marchnad ffermwyr, stondinau crefftau ac
adloniant i blant, Wind in the Willows a Peter Pan, ymhlith rhai
o'r digwyddiadau a fydd ar gael. Peidiwch â cholli ymweliad gan
seren o'r byd pêl-droed, Noson gyda Tommy Docherty yn yr Orendy.
Gyda chymaint i'w weld a'i wneud ar gyfer y
teulu cyfan, beth am achub ar y cyfle i brofi'r ŵyl ddiwylliannol
hyfryd hon, sy'n cynnig rhywbeth gwahanol i bawb.
Hoffwn hefyd gyfleu fy niolch i Bwyllgor yr
Ŵyl, i Corus ac 102.1 Bay Radio am eu gwaith caled wrth roi rhaglen
eleni at ei gilydd.
Rhaglen Gwyl Margam
Mae’r holl ddogfennau’n agor mewn ffenestr newydd.

Lawrlwytho: Acrobat PDF Reader (Gwefan Allanol). Acrobat PDF Reader yn caniatáu i chi weld ffeiliau PDF.
Am fwy o fanylion ar sut i edrych ar ddogfennau, cyfeiriwch at ein tudalennau Help.
Bydd gostyngiad o 10% ar docynnau i holl
weithwyr Cyngor Castell-nedd Port Talbot. (Sylwer, nid yw hyn yn
gymwys ar gyfer digwyddiadau ar 22 a 29 Gorffennaf.)
Gŵyl Margam
Tommy Docherty
Margam Castle
Tocuynnau ar gael nawr ar lein
Wedi'i noddi gan Corus, aelod o Tata Steel,
mewn cydweithrediad â 102.1 Bay Radio.

Manylion y Dudalen
Diweddarwyd: 27.07.2010 am 10:13