Parc Gwledig y Gnoll
Parc gwledig hyfryd wedi'i seilio ar ardd dirlun o'r 18fed
ganrif. Mae'r parc o fewn cyrraedd hawdd i ganol tref Castell-nedd
ac mae'n cynnwys llynnoedd, rhaeadrau, groto, maes chwarae plant,
maes chwarae antur a Chanolfan Ddehongli i Ymwelwyr.
Mae llwybrau troed fforest y parc yn cysylltu â Chronfa Ddw^r
Mosshouse ac ymlaen i fannau gwylio hanesyddol Tw^r Ifori a Chefn
Morfudd.
Cyswllt: Am fanylion pellach a gwybodaeth am amserau
agor,ffoniwch (01639) 635808
Lleoliad: o'r A465 yng Nghastell-nedd dilynwch arwyddion y B4434
ar gyfer Tonna ac yna'r arwyddion brown oddi ar Heol Parc Gnoll
Bws: X5 (First Cymru) o Abertawe/Castell-nedd
Mynediad: Gall pawb fwynhau'r prif barc ond mae'r llwybrau troed
i'r Mosshouse yn waith dringo caled. Gofynnwch i staff yn y
ganolfan ymwelwyr cyn dechrau.