Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Iechyd

Yn ogystal â’ch meddyg teulu, mae amrywiaeth o weithwyr proffesiynol sy’n gallu rhoi cymorth a chyngor ar iechyd. Gallwch gysylltu â hwy trwy eich Canolfan Iechyd neu feddygfa leol.

  • Mae Ymwelwyr Iechyd yn gwneud ymweliadau lles, profion meddygol syml ac yn rhoi brechiadau ffliw a chyngor ar iechyd da.
     
  • Mae Nyrsys Ardal yn rhoi cyngor ar ymataliad a darparu cymhorthion nyrsio.
     
  • Gall Ciropodyddion ddarparu gofal troed gartref i bobl nad ydynt yn gallu gadael y tŷ neu yn y clinig i bobl eraill.
     
  • Mae Nyrsys Seiciatrig Cymunedol yn cynnig cymorth arbenigol i bobl â phroblemau iechyd meddwl neu Glefyd Alzheimer
     
  • Os hoffech gael gwybodaeth am wasanaethau iechyd, salwch neu sefydliadau sy’n ymwneud â chyflyrau meddygol penodol, ffoniwch NHS Direct ar 0845 4647.
Back to top of page

Link to Directgov

Hawlfraint Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot 2008
Ffôn : 01639 686868 - Ffacs : 01639 763444 - e-bost : webmaster@npt.gov.uk
Achosion Brys yn yr Hwyr, ar y Penwythnos neu yn ystod y Gwyliau