Yma » Hafan » Byw » Cymunedau’n Gyntaf » Ardaloedd

Ardaloedd

Mae’r rhaglen Cymunedau’n Gyntaf yn weithgar yn yr ardaloedd canlynol yng Nghastell-nedd Port Talbot. Dewiswyd yr ardaloedd o’r data ym Mynegai Amddifadedd Lluosog 2002.


Gorllewin Llansawel

Mae ward Gorllewin Llansawel yn cynnwys ardal Llansawel sydd i’r gorllewin o’r rheilffordd. Hyd yn hyn, lluniwyd grŵp llywio Cymunedau’n Gyntaf a phartneriaeth ac maent yn cwrdd bob mis. Bu’r cydlynydd wrth ei waith ers Mehefin 2003 ac wedi bod yn darganfod beth mae’r gymuned am drwy arolwg cymunedol. Mae’r data hwn yn cael ei ddadansoddi ar hyn o bryd.

Mae Tŷ Cymunedol Llansawel wedi’i leoli ar Gilgant Llansawel ac mae’n cynnal sesiynau galw i mewn wythnosol sy’n darparu cefnogaeth a chyngor i’r rheiny yn y gymuned, er enghraifft, Tîm Gweithredu dros Swyddi, Tai CNPT, Cyngor ar Bopeth Castell-nedd. (Amserlen Tŷ Llansawel).

Am ragor o wybodaeth neu i gyfranogi, cysylltwch â Leigh Batchelor, Cydlynydd Cymunedau’n Gyntaf ar


Brynbryddan a Phenllyn

Mae Brynbryddan a Phenllyn yn is-wardiau Cymunedau'n Gyntaf yn ward etholiadol Bryn a Chwmafan. Sefydlwyd Partneriaeth Cymunedau'n Gyntaf ers dros dwy flynedd a'i nod yw datblygu a chefnogi gwaith Grŵp Llywio Cwm Together. Mae cyfarfodydd Cwm Together yn gyfarfodydd cyhoeddus agored a gynhelir bob dau fis er mwyn i drigolion gwrdd â chynghorwyr lleol, plismyn a'r tîm Cymunedau'n Gyntaf i drafod materion lleol a datblygu prosiectau a digwyddiadau cymunedol. Gyda chefnogaeth y grŵp lleol, CRAC (Pwyllgor Gweithredu Trigolion Cwmafan), mae Cymunedau'n Gyntaf wedi cyflawni nifer o brosiectau cymunedol llwyddiannus, gan gynnwys:

  • Gwobrau Cyflawnwyr Ifanc Cwmafan - digwyddiad bob dwy flynedd sy'n cydnabod ac yn dathlu cyflawniadau plant a phobl ifanc lleol.
  • Digwyddiadau Glanhau Cymunedol - Cynhelir digwyddiadau glanhau rheolaidd ym Mrynbryddan a Phenllyn diolch i gefnogaeth Cadwch Gymru'n Daclus.
  • Clecar Nadolig Cwmafan - digwyddiad Nadoligaidd lle mae'r gymuned gyfan yn dod at ei gilydd i weld Siôn Corn yn teithio o gwmpas Cwmafan ar ei sled cyn ymweld â'r ffair i weld y plant lleol yn canu, yn dawnsio ac yn perfformio.
  • Gwelliannau Amgylcheddol - mae Cymunedau'n Gyntaf wedi gweithio gyda nifer o grwpiau cymunedol, gan gynnwys yr ysgolion lleol, ar nifer o brosiectau amgylcheddol. Yn yr un diweddaraf, plannwyd dros fil o fylbiau cennin Pedr. Cadwch lygad allan am y cennin Pedr wrth iddynt flodeuo yng Ngwanwyn 2007.

Mae Partneriaeth Cymunedau'n Gyntaf wedi ymgynghori'n helaeth â'r gymuned ac ar hyn o bryd mae'n datblygu Cynllun Gweithredu ar gyfer yr ardal. Mae trigolion Cwmafan yn benderfynol o ddatblygu prosiectau ar gyfer y gymuned ifanc er mwyn sicrhau dyfodol tymor hir yr ardal.

Am ragor o wybodaeth neu i gyfranogi cysylltwch â Mari Shufflebotham


Fairyland

Mae Fairyland yn Is-ward Cymunedau'n Gyntaf yn ward etholiadol Gogledd Castell-nedd. Mae Partneriaeth Cymunedau'n Gyntaf Fairyland wedi cael ei sefydlu ers dros ddwy flynedd ac mae'n cydweithio'n agos â Chymdeithas Preswylwyr Forward 4 Fairyland. Mae partneriaeth Cymunedau'n Gyntaf Fairyland wedi gwneud llawer o waith, gan gynnwys:

  • Gwelliannau Amgylcheddol - Cyflawnwyd nifer o brosiectau amgylcheddol ar yr ystâd gyda chefnogaeth sefydliadau fel Groundwork a'r Awdurdod Lleol. Mae'r prosiectau wedi cynnwys gwella goleuadau stryd, datblygu ardaloedd chwarae i blant a safleoedd hamdden gymunedol. Cynhelir digwyddiadau glanhau cymunedol rheolaidd ar yr ystâd diolch i gefnogaeth gan Cadwch Gymru'n Daclus.
  • Addysg a Hyfforddiant - Mae Partneriaeth Cymunedau'n Gyntaf Fairyland yn un o'r pum sefydliad yng Nghymru sydd wedi llwyddo i dderbyn Cyfrif Dysgu Cymunedol. Nod y prosiect yw ymdrin ag anghenion dysgu'r gymuned a thrwy ymgynghori dwys, cynhyrchwyd Cynllun Dysgu Cymunedol. Mae nifer o flaenoriaethau a nodwyd yn y cynllun yn cael eu cyflwyno'n lleol ar hyn o bryd gyda chefnogaeth partneriaid fel YMCA Castell-nedd, Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol (CGG) Castell-nedd Port Talbot a Gwasanaeth Ieuenctid Castell-nedd Port Talbot. Mae'r prosiectau presennol yn cynnwys cynlluniau iechyd a lles a chyrsiau dysgu anffurfiol.
  • Gweithgareddau Cymunedol - Mae'r Tîm Cymunedau'n Gyntaf wedi cefnogi Forward 4 Fairyland wrth drefnu nifer o ddigwyddiadau cymunedol. Mae'r rhain yn cynnwys diwrnodau difyr i'r teulu, partis Nadolig a gwibdeithiau i'r teulu.

Cwblhawyd Cynllun Gweithredu Cymunedau'n Gyntaf Fairyland yn 2004 ac mae llawer o'r blaenoriaethau a amlygwyd wedi cael eu trin yn lleol neu mae'r gwaith o'u trin yn mynd yn ei flaen. Bydd adolygiad o'r Cynllun Gweithredu'n cael ei gyflawni yn 2007.

Am ragor o wybodaeth neu i gyfranogi cysylltwch â Mari Shufflebotham


Dwyrain Castell-nedd

Mae Dwyrain Castell-nedd yn cynnwys ardaloedd Melincryddan, Penrhiwtyn a Phencaerau. Mae gan Ddwyrain Castell-nedd Grŵp Llywio Cymunedau’n Gyntaf a Phartneriaeth sy’n cwrdd yn rheolaidd. Bellach mae gan Ddwyrain Castell-nedd dîm llawn o staff gan gynnwys cydlynydd, swyddog hawliau lles, gweithiwr datblygu dan hyfforddiant a gweinyddwr. Crëwyd canolfan alw heibio ar gyfer y gymuned leol o’r enw ‘Canolfan Gynghori’r Melin’. Agorwyd y ganolfan ym mis Mawrth 2004 i’r gymuned ei defnyddio. Y sefydliadau a fydd yn cynnal cymorthfeydd fydd ATFJ, CAB a MEWN.

Am ragor o wybodaeth neu i gyfranogi cysylltwch â David Edwards ar


Pelenna

Mae Pelenna’n cynnwys Pontrhydyfen, Efail-Fach a Thonmawr. Mae’r Bartneriaeth yn parhau i gwrdd bob mis. Ar hyn o bryd, mae’r grŵp yn edrych ar faterion ieuenctid a iechyd yn ei ardal. Trefnwyd diwrnod Iechyd a Lles llwyddiannus yn gynt yn y flwyddyn, a gynorthwyodd i gynyddu ymwybyddiaeth o Gymunedau’n Gyntaf

Am ragor o wybodaeth neu i gyfranogi cysylltwch â Martin Ellis ar:


Sandfields

Ffurfiwyd y Bartneriaeth ym mis Ebrill 2003 ac mae’n cwrdd bob 6 wythnos. Mae rhan fwyaf o aelodau’r Bartneriaeth yn byw yn Sandfields, ond croesewir cynrychiolwyr ychwanegol o grwpiau cymunedol bob amser. Hefyd mae gan y Bartneriaeth nifer o is-grwpiau ar themâu gwahanol.

Am ragor o wybodaeth am Gymunedau’n Gyntaf yn Sandfields ymwelwch â’u gwefan, www.sandfieldsfirst.ik.com neu am fanylion ar Ieuenctid yn yr ardal ewch i http://www.sandfieldsyouth.ik.com


Cwm Afan Uchaf

Mae Cwm Afan Uchaf yn cynnwys wardiau y Cymer, Glyncorrwg a Gwynfi. Bellach mae gan yr ardal bartneriaeth yn gweithredu, a sefydlwyd ym mis Rhagfyr 2003. Mae aelodau’r Bartneriaeth o’r tair ward. Mae’r bartneriaeth yn cwrdd bob mis. Mae’r tîm Cymunedau’n Gyntaf yn cynnwys cydlynydd, gweithiwr datblygu a chynorthwy-ydd gweinyddol.

Am ragor o wybodaeth neu i gyfranogi cysyllt â Jo-Anne Thomas


Dyffryn Aman Uchaf

Mae hon yn bartneriaeth ar draws ffiniau sy’n cynnwys Brynaman Isaf, Tairgwaith, Cwmgors a Gwauncaegurwen yng Nghastell-nedd Port Talbot, a Chwarterbach yn Sir Gaerfyrddin.

Mae grwpiau llywio pentrefi ym mhob pentref er mwyn i bobl leol gyfranogi a lleisio eu barn. Mae pob grŵp llywio yn llunio syniadau ar gyfer y cynllun gweithredu a blaenoriaethu prosiectau. Mae’r grwpiau llywio’n enwebu cynrychiolwyr cymunedol ar bartneriaeth amlasiantaeth sy’n ystyried y materion trawsffiniol.

Am ragor o wybodaeth neu i gyfranogi cysylltwch â Tom Williams ar


Cwm Dulais Uchaf

Mae hwn yn cynnwys wardiau Blaendulais ac Onllwyn. Mae gan bob ward gyfarfodydd grŵp llywio rheolaidd, ac mae’r Partneriaethau’n cwrdd bob mis. Cafodd holiadur i bob cartref yn yr ardal gyfradd ymateb uchel iawn, ac mae’r Bartneriaeth nawr yn edrych ar brosiectau ar gyfer y Cynllun Gweithredu.

Am ragor o wybodaeth neu i gyfranogi cysylltwch â Dean Cawsey ar


Ystalyfera a Godre’r Graig (is-ward Pantyffynon)

Mae’r Bartneriaeth yn cwrdd bob mis, a hefyd mae grŵp llywio cymunedol bywiog iawn yn cwrdd yn rheolaidd. Mae holiadur cymunedol a chynllunio neu ddigwyddiadau go iawn wedi creu syniadau sydd bellach yn cael eu hystyried ar gyfer y Cynllun Gweithredu. Yn fwyaf diweddar, cymeradwywyd cais i Gymunedau’n Gyntaf gan Gynulliad Cymru am £130,000 i gyfrannu tuag at Neuadd Chwaraeon gymunedol newydd yn yr Ysgol Gyfun. Bydd y prosiect hwn yn cefnogi ymrwymiad grwpiau chwaraeon lleol y tu allan i oriau ysgol.

Am ragor o wybodaeth neu i gyfranogi cysylltwch â Ryland Doyle ar


Cymuned o Ddiddordeb Trais yn y Cartref

Mae’r Gymuned o Ddiddordeb Trais yn y Cartref yn fenter Cymunedau’n Gyntaf sy’n gweithredu ar draws y fwrdeistref sydd â’r nod o fynd i’r afael â thrais yn y cartref yng Nghastell-nedd Port Talbot. Mae’r Bartneriaeth yn cwrdd yn rheolaidd. Bellach mae’r tîm yn cynnwys cydlynydd, gweithiwr datblygu’r lleiafrifoedd a gweinyddwr. Maent wedi symud a bellach maent wedi’u lleoli yng Nghanolfan Hamdden Lido Afan.

Am ragor o wybodaeth neu i gyfranogi, cysylltwch â Julia Lewis ar


Ieuenctid

Mae materion ieuenctid yn rhan bwysig o raglen Cymunedau’n Gyntaf. Felly, mae Tîm Datblygu Ieuenctid Cymunedau’n Gyntaf yn gweithio gyda phobl ifanc o ardaloedd Cymunedau’n Gyntaf. Pennaeth y tîm hwn yw Kay Davies. Mae Kay yn gweithio gyda phobl ifanc ym mhob ardal Cymunedau’n Gyntaf. Trefnwyd llawer o wibdeithiau dydd/prosiectau er mwyn adeiladu tîm. Ar hyn o bryd, mae’r bartneriaeth ieuenctid yn eistedd ar bartneriaethau Cwm Afan a Gorllewin Llansawel. Yn y pen draw dros amser, bydd partneriaeth ieuenctid yn gallu eistedd ar bob partneriaeth yn ardaloedd Cymunedau’n Gyntaf Castell-nedd Port Talbot.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, neu os ydych yn berson ifanc a hoffai gyfranogi cysylltwch â Kay Davies ar

Back to top of page

Link to Directgov

Hawlfraint Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot 2008
Ffôn : 01639 763333 - Ffacs : 01639 763444 - e-bost : webmaster@npt.gov.uk
Achosion Brys yn yr Hwyr, ar y Penwythnos neu yn ystod y Gwyliau