Yma » Hafan » Dysgu » Llyfrgelloedd

Llyfrgelloedd

Croeso i Wasanaeth Llyfrgell a Gwybodaeth Castell-nedd Port Talbot

Bellach mae llyfrgelloedd yn cynnig rhywbeth i bawb, llyfrau, gwybodaeth, cerddoriaeth, ffilmiau a chyfrifiaduron, gyda mynediad am ddim i'r Rhyngrwyd a gwasanaethau eraill ar lein.

Mae Gwasanaeth Llyfrgell a Gwybodaeth Castell-nedd Port Talbot yn darparu ystod o wasanaethau i'r gymuned leol drwy'r rhwydwaith o 18 llyfrgell a 2 lyfrgell deithiol. Mae'r prif lyfrgelloedd yng Nghastell-nedd, Port Talbot a Pontardawe.

Llyfrgelloedd Castell nedd Port Talbot yng Ngŵyl Pontardawe

Ymunwch â ni yng Ngŵyl Pontardawe am dri diwrnod llawn hwyl ar y maes wrth i ni gyflwyno straeon a rhigymau gan Owen Staton, Storïwr yr Ŵyl, a Brian Smith, Bardd yr Ŵyl.

Dydd Gwener 15 Awst at 7:00

Bydd Phil Carradice yn ymuno â Brian Smith, Bardd yr Ŵyl, i fwrw golwg goeglyd a doniol ar fywyd drwy rythm ac odl.

Dydd Sadwrn 16 Awst 1:00 – 1:30 & 2:00 – 2:30

Owen StatonBydd Owen Staton, Storïwr yr Ŵyl, yn perfformio rhai o'i hoff straeon o Gymru yn ystod y prynhawn. Peidiwch â cholli straeon a dramâu Owen am Gymru.

Dydd Sul 17 Awst – Trwy’r dydd

Ymunwch â ni ar y maes am mwy hwyl.

Dros gyfnod o dri diwrnod, bydd stondin lyfrau, gweithgareddau i blant a gwybodaeth am eich llyfrgell.

Mynediad am ddim wedi i chi gyrraedd y maes.

Blwyddyn Darllen Genedlaethol

Logo Blwyddyn Darllen Genedlaethol 2008Eleni mae Diwrnod y Llyfr hyd yn oed yn fwy arwyddocaol am ei fod yn lansio'r Flwyddyn Ddarllen Genedlaethol yng Nghastell-nedd Port Talbot. Yn ystod y flwyddyn, bydd rhai o awduron mwyaf poblogaidd y wlad yn cymryd rhan mewn digwyddiadau. Bydd awduron megis Catrin Collier, Bernard Knight, Lionel Fanthorpe, Jasper Fforde, Michael Jecks, Mavis Nicholson ac Andrew Taylor i gyd yn ymweld â llyfrgelloedd yn ystod y misoedd nesaf. Cadwch lygad allan am ddigwyddiad Cwrdd â'r Awdur yn eich llyfrgell.

Yng Ngŵyl Margam ar 13 Gorffennaf, cynhelir diwrnod nodwedd i ddarllenwyr a fydd yn cynnwys prif ddigwyddiad Gwobr Dylan Thomas a nifer o awduron adnabyddus.

Bydd pabell llyfrgelloedd eto eleni yng Ngŵyl Pontardawe, 15 - 17 Awst, a fydd yn cynnwys sesiynau adrodd storïau gwych, barddoniaeth berfformiad a llawer, llawer mwy.

Bydd y Flwyddyn Ddarllen Genedlaethol yn un rhyfeddol yng Nghastell-nedd Port Talbot

Back to top of page

Link to Directgov

Hawlfraint Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot 2008
Ffôn : 01639 763333 - Ffacs : 01639 763444 - e-bost : webmaster@npt.gov.uk
Achosion Brys yn yr Hwyr, ar y Penwythnos neu yn ystod y Gwyliau