Y Castell a'r Tai Allanol

Margam Castle


Hanes a dyluniad

Adeiladwyd Castell Margam, plasty Tudur-Gothig, ynghyd â'r adeiladau gwasanaeth a'r llibartiau rhwng 1830 a 1840 ac mae wedi'i gofrestru fel adeilad Gradd I o ansawdd eithriadol gyda rhai nodweddion arbennig fel y grisiau.

Nid tan y 1820au yr oedd Christopher Rice Mansel Talbot (1803 - 1890) yn benderfynol o adeiladu ty newydd ym Margam.

Bu stad Margam yn ei deulu ers 1536, serch hynny, roedd Thomas Mansel Talbot wedi dymchwel y plasty gwreiddiol yn 1787 i'w ddisodli gan Orendy ysblennydd a welir yn y gerddi heddiw. Roedd yn falch o'i linach teuluol, ac roedd Christopher Rice Mansel Talbot wedi cael ei ddenu at y Margam rhamantaidd drwy gydol ei oes. Roedd yn dymuno ailadeiladu preswylfa wledig addas a fyddai'n addas i hanes enwog Margam.

Dewiswyd y safle'n fwriadol oherwydd ei gysylltiadau hanesyddol a'i safle lliwgar wrth droed bryn coediog hanesyddol Mynydd-y-Castell, sef safle preswylio cynharaf Margam, gydag olion Abaty'r Lleianod Gwynion a'r Orendy 18fed ganrif yn weladwy i'r Gorllewin. Mae agwedd y ty, sy'n codi uwchben yr Orendy a'r olion mynachaidd i'r gorllewin, yn unigryw yng Nghymru.

Er mai'r pensaer cydnabyddedig ac achrededig yw Thomas Hopper (1776 - 1856), mae'n ddiddorol nodi bod pensaer adnabyddus arall wedi chwarae rhan sylweddol yn y prosiect ac mae bron yn sicr wedi dylanwadu ar arddull y ty gorffenedig gyda gwaith mewnol ac allanol, y stablau, y teras a'r porthdai, sef y pensaer o Amwythig Edward Haycock (1790 - 1870). Felly ceir dau bensaer neilltuol y 19eg Ganrif yn gweithio ar Margam.

Serch hynny, roedd trydydd person a ddylanwadodd yn fawr ar yr arddull bensaernïol a'r dyluniad gorffenedig sef C.R.M.Talbot a ddefnyddiodd ddylanwad pensaernïol dau gartref. Benthyciodd elfennau o Fynachlog Lacock yn Wiltshire, cartref teuluol y teulu Talbot a chartref ei gefnder W.H.Fox Talbot; a daeth y syniad o gael y twr octagon o Dy Melbury yn Dorset, plasty teulu ei fam, y Fox-Strangeways, Ieirll Illchester.

Mewn gwirionedd dyluniwyd Margam gan dri dyn Hopper, Haycock a Talbot gan ddefnyddio dylanwad dau dy cynharach sef Laycock a Melbury tra'n cyflwyno creadigaeth unigryw a oedd yn gweddu i'r amgylchedd cefn gwlad, yn atgoffa o'r gorffennol cyfoethog a disglair - sy'n union beth oedd gan C.R.M.Talbot mewn golwg.

Yr Adeilad

Mae cynllun a phinacl afreolaidd nenlinell simneiau a chastell y ty yn rhoi ymddangosiad rhamantus iddo. Adeiladwyd y ty o gwmpas tri llibart, un yng nghanol y prif floc a dau hen libart gwasanaeth i'r dwyrain yn creu safle hirsgwar gyda phedwar dyrchafiad, a thri ohonynt yn cynnwys rhannau mwyaf addurnedig y prif dy. Ceir dau brif lawr, gyda'r trydydd llawr â thalcen iddo. Mae wynebau'r adeilad wedi'u haddurno gan gerfiadau a phaneli herodrol a naddwyd, mae nifer fawr o dariannau ac arfbeisiau aelodau gwahanol y teulu Mansel yn dangos balchder y perchennog o hanes ei deulu, a welir yn y gwaith cerrig.

Mae twr octagon dramatig gyda thyred grisiau (nid yw'r tyred o'r uchder gwreiddiol, mae'n ymddangos bod gwaith cerrig parapet addurniadol wedi'i dynnu) wedi'i leoli yng nghanol yr adeilad, mae'n codi dau lawr uwchben y prif dy ac ar y brig ceir ystafell wylio.

Mae'r ty wedi'i osod o'r dwyrain i'r gorllewin, gyda'r prif fynedfa yn y gogledd.

Mae'r dreif yn nesáu o'r de-ddwyrain ac yn rhannu cyn y ty. Mae'r gangen ddeheuol yn arwain at y stablau ar ochr ddwyreiniol y ty a'r prif ddreif yn rhedeg drwy doriad byr rhwng y banciau gwair ac i'r blaen-gwrt gyda chylch gwair canolog o flaen y prif fynedfa.

Mae'r fynedfa'n gyntedd dau lawr â thalcen, gyda drws bwa pedwar canolbwynt â ffenestr patrymog Gothig drosto. Mae'r wyneb de hir, afreolaidd, gyda phyrth crwn, ffenestri oriel a drws bwa arall, yn edrych dros y teras eang sydd hefyd yn ymestyn ar hyd yr wyneb gorllewinol. Y tu mewn ceir grisiau carreg ysblennydd sy'n codi i ddau lawr cyntaf y tw^r.

Gorffennwyd y rhan fwyaf o'r gwaith adeiladu erbyn 1836 pan ddechreuwyd ar yr addurno mewnol. Parhaodd yr arddull gothig yn y fynedfa ac yn y neuaddau grisiau. Er bod y tu allan yn drawiadol, nid oedd yn rhoi unrhyw arwydd o'r gorffeniad coeth a oedd y tu mewn. Cafwyd llyfrgell eang, parlwr, ystafell fwyta, astudfa ac ystafell archifau. 

Roedd y neuadd risiau yn llawn fleur-de-lys a charped rhubanau mewn pinc a brown cyfoethog. Yn ddiweddarach, gosodwyd set o gorau gothig o amgylch ymyl y neuadd risiau pob un wedi'i gerfio gyda set o banelu cefn gyda monogramau C.R.M. Talbot, ac uwchben cerfiwyd ffigurau naturiol o'r anifeiliaid a welir yn y parc.

The Staircase Hall. Photographed by Spencer Nicholl, September 1885. Note the Victorian Gasoliers. The legs of the table in the centre were balusters from the staircase of the old Mansel House.Roedd y llyfrgell, y parlwr a'r ystafell fwyta wedi'u haddurno'n foethus gyda gwaith pren a gerfiwyd a phanelu, ffenestri lliw, gwaith plastr euraidd a llefydd tân marmor hyfryd. Addurnwyd yr ystafelloedd gwely mewn arddulliau gwahanol, gan gynnwys yr arddull Tseineaidd ffasiynol bryd hynny, addurnwyd un arall gyda thapestrïau ac roedd rhai ohonynt yn cynnwys llefydd tân o farmor lleol a phoblogaidd y Mwmbwls. Dail aur, marmor wedi'i gerfio, celfi moethus, panelu rococo Ffrengig, siandelïers crisial, sgriniau lacr Tseineaidd, fasys porslen, paentiadau gan Rubens, Canaletto, i gyd wedi'u gorffen gan gelfi hyfryd ym mhob ystafell. Roedd C.R.M.Talbot yn gasglwr brwd. Daeth â nifer o gerfluniau, paentiadau a hen bethau yn ôl o'r Eidal. Yn fuan roedd Margam wedi'i lenwi gan gelfi, paentiadau ac objects d'art hyfryd.

I'r dwyrain o'r prif adeilad mae'r adeiladau gwasanaeth Gradd II* wedi'u crynhoi o amgylch iard wasanaeth coblog a fflagiau, gyda wal sgrîn ar yr ochr ogleddol â chyfylchiadau grisiog arni. Mae'r fynedfa i'r llibart drwy borth bwa enfawr uchel gyda phanel herodrol ar ben gorllewinol yr ochr ogleddol. Mae'r ceginau a'r swyddfeydd teuluol gan gynnwys yr olchfa, y popty a'r bragdy, wedi'u gwasgaru ar draws y lle ac eithrio'r ochr ddeheuol sydd wedi'i ffinio gan wal â drws ynddi sy'n arwain i iard lai o storfeydd a phantrïoedd. I'r dwyrain ceir y boelerdy, parlwr yr olchyddes a'r ystafell gynnau, ac i'r de o hyn ceir adeilad Gothig un llawr hir gyda drysau crwm yn y waliau ar y pen a ffenestri tri golau bach gyda bwtresi bas rhyngddynt.

Ymhellach i'r dwyrain ar hyd prif echel y ty^ ceir y stablau, ardal siap L gyda'r fynedfa ar yr ochr ogleddol a wal derfyn i'r de.

Adeiladwyd y plasty yn bennaf o gerrig tywod lleol, ashlar Pîl, sydd wedi aeddfedu'n hyfryd dros y blynyddoedd. Tu mewn, defnyddiwyd carreg galetach ar gyfer y neuadd risiau tra defnyddiwyd brics yn helaeth ar gyfer y waliau mewnol, y seleri a rhannau eraill o'r adeilad.

Defnyddiwyd derw a phîn ar gyfer y trawstiau a'r lloriau, gyda defnydd dyfeisgar o'r rheiliau haearn bwrw i gynnal landins cerrig y prif risiau. Mewn mannau eraill, defnyddiwyd haearn bwrw ar gyfer y system ddraenio, ar gyfer griliau a gorchuddion awyru. Roedd y cafnau a'r pibau dw^r wedi'u cynhyrchu o blwm, gydag arbais Talbot yn addurno pob hopran uwchben y peipiau dw^r.

Roedd y to cymhleth wedi'i wneud o blwm a llechi o Gernyw ac roedd wedi'i adeiladu ar gynifer o lefelau ac onglau fel bod yn rhaid i lu bach o ddynion frwsio'r cafnau a'r ceunentydd yn rheolaidd a phan fyddai'n dechrau bwrw eira byddai gweithwyr y stad yn brwsio'r toeon. Cynhyrchwyd y nifer fawr o gyrn simnai, i gyd yn amrywiad o'r arddull Duduraidd, yn arbennig yn Bedfordshire a'u cludo i Fargam.

Adeiladu'r Castell

Mewn llythyr dyddiedig 7fed o Ragfyr 1928 ysgrifennodd modryb Christopher Rice Mansel Talbot at ei mab W H Fox Talbot; mae'n trafod ei gynlluniau ar gyfer y ty^, Kit oedd enw anwes C.R.M. Talbot …

"Bu Kit yma am bythefnos ac aeth i'r dref gyda Mr Fielding… mae'n ymddangos bod Kit yn hoffi'r lle hwn yn fawr ac mae'n benderfynol o adeiladu tw^r ychwanegol at ei dy^ newydd, neuadd fawr ac ar ben popeth grisiau cudd.!"

Roedd y sgweier ifanc yn benderfynol y byddai'r wlad yn genfigennus o'i dy^ newydd ac y byddai'n gweddu i'w linach, ei safle cymdeithasol a'i gyfoeth.

Yn anffodus, nid oes gweddluniau gorffenedig na chynlluniau o Margam yn bodoli ac eithrio tri braslun bach. Mae'n hysbys y cyflwynodd Hopper ddarluniau a chynlluniau manwl i Talbot ac mae'n debygol y byddai Haycock wedi cwblhau rhai darluniau hefyd. Cafodd nifer o'r darluniadau pensaernïol hyn eu fframio a'u hongian yn ddiweddarach yng nghoridorau'r Castell hyd nes iddynt ddiflannu yn 1941.

Llun 2 Trychlun a sganiwyd o'r tw^r a'r neuadd risiau gan Thomas Hopper

Llythyron a darnau o gyfrifon y stad o 1830 i 1840 er mwyn cynorthwyo i ddangos datblygiad y gwaith adeiladu. Yn ystod mis Mehefin 1830, mae'r cofnodion yn dangos bod y cerrig wedi dod o'r chwarel, y sylfeini a'r gwteri wedi'u palu ac erbyn mis Rhagfyr 1831 roedd y prif dy^ â tho arno a dyluniad y tw^r wedi'i gadarnhau. Roedd y gwaith yn dod yn ei flaen yn raddol ac yn 1834 gwelwyd datblygiadau mawr ar gyfer cwblhau'r ty^ gyda gwaith ar swyddfeydd y teulu a'r tai allanol yn cystadlu yn erbyn gwaith mewnol y prif dy^.

Erbyn 1836 roedd y rhan fwyaf o'r gwaith ar y prif dy^ wedi'i gwblhau er bod y gwaith yn parhau gyda swyddfeydd y teulu a'r tai allanol. Yn 1837 gwelwyd rhagor o waith yn cael ei wneud gyda phlastrwyr a seiri coed yn dal i weithio a phalwyd y sylfeini ar gyfer stablau ychwanegol i ddwyrain y ty^ ac yn 1839, mae'r cofnodion yn dangos taliad o £48 am 6,000 o lechi a ddefnyddiwyd ar gyfer rhai o adeiladau'r llibart ac mae llythyr oddi wrth mam Kit Talbot, y Foneddiges Mary Cole, yn disgrifio'r gwaith ar y teras a'r grisiau sy'n arwain at y gerddi. Yn ystod 1840 cwblhawyd y gwaith a dechreuodd Talbot ar y gwaith o adeiladu porthdai mynediad y stad.

Dynion a deunyddiau

Dyluniwyd plasty newydd Christopher Rice Mansel Talbot gan Thomas Hopper, ar y pryd fe oedd Syrfëwr Sir Essex, wedi'i noddi gan y Raglyw Dywysog ac yn bensaer ffasiynol. Yr arddull a ddewiswyd oedd Tudur Gothig a gwnaeth yn well na'r disgwyl gyda'r dyluniad. Cafodd ei annog gan Talbot a bu'n greadigol dros ben. Y canlyniad oedd llwyth o dyrau, tyredau, pinaclau, cromennau, myrfylchau a thalcennau ty^. Roedd Margam yn lle mor rhamantaidd nes plesio unrhyw un oedd yn hoffi pethau gothig.

Serch hynny, roedd y mwyafrif o ddyluniad mewnol y stablau a'r terasau gan Edward Haycock, Syrfëwr Sir Amwythig, a oedd yn ddisgybl i Syr Jeffry Wyatt, pensaer Castell Windsor.

Gweithredwr Neuadd Baglan Griffith Llewellyn a'i frawd Thomas oedd yn gyfrifol am arolygaeth gyffredinol y prosiect adeiladu tra bu beili Margam, David Richards yn Glerc Gwaith effeithiol.

Cadwyd y cyfansymiau cyfredol gwirioneddol yn drwyadl yng nghyfrifon y stad gan y gweithredwr. Rhwng 1830 a 1832 mae'r cyfrifon yn nodi taliadau o bron £8,000 am gyflogau, deunyddiau a chludiant; o hyn gwariwyd £4,286.1s.7d yn y flwyddyn 1831 yn unig.

Roedd gweithgarwch aruthrol ar y stad wrth i longau gyrraedd porthladdoedd Taibach ac Aberafan. Cludodd y llongau hyn gerrig calch o Aberthaw, plwm o Gaerloyw, llechi o Gernyw a gwydr o Lerpwl. Cludwyd cerrig o'r Pîl gyda'r brics yn cael eu cyflenwi gan odyn newydd ym Margam.

Roedd nifer o'r gweithwyr a'r crefftwyr a gyflogwyd yn feibion i'r dynion a weithiodd ar adeiladu'r Orendy i Thomas Mansel Talbot. Roedd ymdeimlad bob amser o ddilyniant gyda'r gweithwyr a'u teuluoedd ar stad Margam a barhaodd i'r 20fed ganrif. Mae rhai cofnodion yng nghyfrifon 1831 yn rhoi cipolwg o enwau'r crefftwyr a gyflogwyd fel William Gubbins yn y chwarel ym Mhîl, Richard Jones y saer maen, Francis Lewis a James Pritchard a wnaeth y brics a Benjamin Howell a ddarparodd flew ceffylau ar gyfer y plastr.

Mae'n siwr bod y ty^ newydd wedi edrych yn hyfryd i'w berchennog balch wrth i ddiwedd y gwaith ddod yn agosach. Roedd y gost dros £50,000, sy'n cyfateb i sawl miliwn heddiw, ond nid oedd hyn yn ystyried yr adnoddau sylweddol a gyfrannwyd gan y stad i'r prosiect.

Y preswylwyr, yr ymwelwyr a'r blynyddoedd diweddaraf

Yn 1835, priododd Christopher Rice Mansel Talbot â'r Foneddiges Charlotte Butler, merch Iarll cyntaf Glengall. Cawsant bedwar plentyn - Theodore, Emily Charlotte, Bertha Isabella (a briododd â John Fletcher o Saltoun) ac Olivia.

Ffynnodd y ty ac yn ei anterth bu boneddigion yn ymweld ag ef. Daeth Tywysog a Thywysoges Cymru, yn ddiweddarach Edward VII a'r Frenhines Alexandra, i ginio ar 17 Hydref 1881 gan blannu coeden yn y gerddi i goffáu eu hymweliad.

The castle in its heyday, showing the terrace, South and West Fronts c.1900 (Arthur Rees Collection)

Un ymwelydd cyson â Margam oedd cefnder Talbot, Henry Fox Talbot o Lacock. Roedd yn ffotograffydd arloesol, a llwyddodd i gymryd un o'r golygfeydd ffotograffig cynharaf sy'n dangos cornel de-orllewinol y ffasâd yn glir.

Emily Charlotte TalbotBu Christopher Rice Mansel Talbot farw yn 1890, bu farw ei unig fab Theodore Mansel Talbot yn 1876 ac etifeddodd ei ferch Miss Emily Charlotte Talbot stadau Margam a Phen-rys ei thad. Gwnaeth newidiadau amrywiol i'r ty, ystafelloedd ymolchi newydd, gosodwyd gwaith plymio, cafwyd gwresogi gwell ac yn 1891 - gosodwyd trydan yn y ty. Ychwanegwyd yr ystafell filiards, drwy'i hadeiladu dros y llibart mewnol bach. Defnyddiwyd yr arddull Jacobeaidd a ddaeth yn lle poblogaidd gyda'r gwesteion gwrywaidd a oedd yn cael eu gwahodd i'w phartïon ty mawr ar ddiwedd y 19eg ganrif a dechrau'r 20fed ganrif. Roedd ffenestr do fawr o wydr plaen yn goleuo'r ystafell. Roedd y lle tân â mantell foethus gyda'r dyddiad 1892 a'r llythrennau ECT, Emily Charlotte Talbot wedi'u cerfio ynddo. Roedd llu o weision gan Miss Talbot yn y ty ac ar ei stad gan gynnwys llu o arddwyr.

Yn dilyn marwolaeth Miss Talbot yn 1918, etifeddodd ei nai Capten Andrew Mansel Talbot Fletcher (1880-1951) Stad Margam. Roedd ef a'i deulu yn aros yma'n aml yn ystod gwyliau'r haf. Byddai'n agor y gerddi i'r cyhoedd yn aml drwy gynnal ffeiriau a dathliadau.

Newidiodd y castell ryw ychydig, ac fe newidiodd yr hen floc stablau yn gwrt sboncen a garej yn 1930.

Pan ddechreuodd y rhyfel yn 1939 meddiannodd y Llywodraeth yr Orendy a rhan o'r Castell. Penderfynodd ymddiriedolwyr stad Margam werthu y rhan fwyaf o'r eiddo a dychwelodd Capten Fletcher a'i deulu yn ôl i'w stad yn yr Alban, Saltoun.

Trefnwyd yr arwerthiant pedwar diwrnod gan Christies o Lundain ac fe'i cynhaliwyd rhwng 27 a 30 Hydref 1941. Denodd yr arwerthiant fasnachwyr o bob cwr o'r wlad yn ogystal â nifer o bobl leol bryderus i gael y cyfle olaf i weld y trysorau ac efallai prynu swfenîr rhad. Ar y dydd Llun, gwerthwyd casgliad arian y 18fed a'r 19eg ganrif, dydd Mawrth gwerthwyd llyfrau cain a gododd fwy o arian na'r arian.

Cafwyd uchafbwynt y gwerthu ar y dydd Mercher gyda chasgliad cain o baentiadau, cerfluniau a marmorau hen y teulu Talbot yn cael eu gwerthu. Roeddent yn cynnwys gwaith gan Canaletto, yr Oriel Genedlaethol wedi'i chynrychioli gan Syr Kenneth Clark a brynodd y dell'Abbate o "Stori Aristaeus", gwerthwyd "Repose on the Flight to Egypt" gan Gentileschi i Ddug Caint, a'r Rembrant i brynwr o'r Iseldiroedd a chafodd Amgueddfa Genedlaethol Cymru saith dyfrliw o olygfeydd o Gymru gan Ibbetson.

O ran y cerfluniau a'r marmorau, cafodd Amgueddfa Fictoria ac Albert, Amgueddfa Genedlaethol Sweden yn Stockholm a'r Arglwydd Trent rai. Roedd un eitem heb ei werthu sef cerflun enfawr o'r Ymerawdwr Rhufeinig anhysbys Lucius Verus, mae hwn erbyn hyn yn yr Orendy lle gellir ei weld heddiw. Ar y diwrnod olaf, gwerthwyd y celfi, y tapestrïau a nwyddau'r cartref.

Dosbarthwyd cynnwys y Castell yn fuan gan adael plasty gwag a thruenus.

Yn ystod blynyddoedd y rhyfel bu'r lluoedd Prydeinig ac Americanaidd yn preswylio yng Nghastell Margam. Yn 1942 gwerthwyd y stad i Syr David Evans-Bevan, perchennog Bragdy Cwm Nedd. Ni wnaeth fyw erioed yn yr adeilad ac yn raddol dechreuodd fandaliaid a lladron ei ddifrodi ac roedd yn dirywio'n gragen wag.

Adfer ac Adnewyddu

Fire at the Castle, August 1977Pan feddiannwyd y stad gan Gyngor Sir Morgannwg yn 1973, dechreuodd pennod newydd anogol yn hanes y Castell yr ymyrrwyd ag ef yn 1977. Roedd y gwaith sylweddol a oedd angen ei wneud ar y stad a'r angen am waith brys ar yr Orendy Georgaidd yn golygu bod y Castell bron yn olaf ar y rhestr o flaenoriaethau. Adnewyddwyd y stablau a'r cwrt sboncen, ac fe agorwyd Canolfan Ddeongliadol ym mis Mehefin 1977.

Dechreuwyd ar ychydig o waith clirio yn y Castell ond bu tân trychinebus yn y Castell gan losgi tu mewn y ty ar 4 Awst 1977. Yn raddol, ymgymerwyd â rhaglen o adfer a gwella.

 

Rhoddwyd ail do ar yr Adain Ogleddol yn 1982, gan ddefnyddio nifer o'r llechi gwreiddiol yn ogystal â sefydlogi ac atgyfnerthu waliau, simneiau a thyredau a effeithiwyd gan y tân. Roedd gwaith cerrig y talcen canolog uwchben y baeau gorllewinol wedi cwympo yn ystod tân 1977 a chafodd hwn ei ail-adeiladu i gynnwys tarian garreg newydd a oedd yn portreadu arfbais Cyngor Sir Gorllewin Morgannwg.

Er gwaethaf cyfyngiadau cyllideb ac ariannol cynyddol roedd y gwaith trwsio strwythurol mwyaf brys yn datblygu. Canolbwyntiwyd ar yr adain ogleddol a'r neuadd fynedfa o ran yr adnewyddu mewnol, ac yn 1983 ailgyflwynwyd trydan i'r plasty am yr aildro yn ei hanes. Yn 1987, ymgymerwyd ag adnewyddu mewnol mentrus o'r gwaith plastr manwl a'r bwâu yn neuadd y fynedfa a tho'r grisiau mawr o dan y twr. Difrodwyd y panelu wal o arddull gothig gwreiddiol yn ofnadwy a dim ond darn bach a allai gael ei arbed, ond o hyn, gwnaed copïau plastr ac maent mewn lle, wedi'u paentio i ymdebygu'r pren.

Ar yr un pryd, adnewyddwyd y Twr gyda'i olygfeydd godidog o'r Parc a'r cefn gwlad amgylchynol.

Yn 1995 gyda gwaith i'r Adain Ddeheuol a Gorllewinol, gorffennwyd y cam olaf o ail-osod y toeon a'r atgyweiriadau strwythurol. O'r diwedd roedd y Plasty'n ddiogel ac yn gynhwysfawr. Ar 1 Mawrth 1996 cynhaliwyd gwasanaeth gan Esgob Llandaf i goffáu'r gwaith adnewyddu hyd yn hyn, a dadorchuddiwyd plac ar y landin hanner ffordd i fyny'r grisiau mawr.

Yn dilyn ad-drefnu llywodraeth leol ym mis Ebrill 1996, nid oedd Cyngor Sir Gorllewin Morgannwg yn bodoli bellach a daeth y Castell, ynghyd â Pharc Margam yn gyfrifoldeb i Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot newydd sydd wedi parhau â'r rhaglen adfer.

Erbyn hyn, mae'r adain Ogleddol wedi'i haddasu i'w defnyddio fel canolfan breswyl at ddibenion addysgol ac mae'n cynnwys Canolfan Astudio Maes sy'n darparu ystafelloedd cysgu ac ystafelloedd gwely, ynghyd â dosbarthiadau a labordai, i'w defnyddio gan bartïon ysgol a chyrsiau i oedolion o Gymru ac ymhellach i ffwrdd. Mae'r tai allanol o amgylch y llibartiau dwyreiniol yn gartref i swyddfeydd gweinyddu'r parc a'r Ganolfan Ymwelwyr.

Yn ystod misoedd yr haf, mae'r prif ardal risiau a rhai o'r ystafelloedd ar y llawr gwaelod yn agored i'r cyhoedd eu gweld.

Back to top of page

Link to Directgov

Hawlfraint Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot 2008
Ffôn : 01639 763333 - Ffacs : 01639 763444 - e-bost : webmaster@npt.gov.uk
Achosion Brys yn yr Hwyr, ar y Penwythnos neu yn ystod y Gwyliau