Croeso i Hamdden a Thwristiaeth
P’un a ydych yn ymweld am ddiwrnod neu’ch bod wedi byw yma
drwy gydol eich oes, rydych yn siŵr o ddod o hyd i rywbeth o
ddiddordeb i’w wneud neu i’w weld yng Nghastell-nedd Port Talbot.
Archwiliwch brydferthwch naturiol ardal sy’n brolio rhai o barciau
gwledig a choedwig, rhaeadrau dramatig, afonydd troellog a chamlesi
llonydd gorau’r wlad.