Yma » Hafan » Hamdden a Thwristiaeth » Canllaw Ymwelwyr

Canllaw Ymwelwyr

Parc Gwledig MargamY lle delfrydol i brofi'r atyniadau ac i grwydro drwy harddwch naturiol ardal sy'n ymestyn o Fannau Brycheiniog i draethau euraidd Arfordir De Orllewin Cymru, boed hynny am ddiwrnod o ymweliad cyffrous neu am wyliau byr hamddenol.

Darganfyddwch drosoch chi'ch hun harddwch a llonyddwch ei hamryw o atyniadau o 'Wlad y Rhaeadrau' yng Nghwm Nedd i'r rhwydwaith o lwybrau cerdded a beicio yng Nghwm Afan a adnabyddir yn lleol fel 'Y Swistir Fach'.

Mae'r parciau cefn gwlad rhagorol a'r amrywiaeth eang o safleodd hanesyddol ac amgueddfeydd a geir yng Nghastell-nedd Port Talbot yn gyfle i brofi treftadaeth diwydiannol a diwylliannol tra diddorol yr ardal.

Ychwanegwch at yr uchod atyniadau dan do megis yr Aquadome neu'r Afan Lido, pwll hamdden newydd mwyaf cyffrous Prydain, theatrau a sinemau, ac fe wyddoch fob bob amser rhywbeth i'w weld ac i'w wneud mewn ardal sy'n syndod o wahanol.

Camlas Castell-neddEr mwyn gwneud y gorau o'ch amser, galwch heibio i un o'n Canolfannau Croeso lle cewch groeso cynnes. Gall y Ganolfan neilltuo amrywiaeth o lety o ansawdd ar eich cyfer, rhoi rhestr o ddigwyddiadau a chyfleusterau lleol i chi, neu'ch helpu i gynllunio'ch diwrnod.

Felly mwynhewch eich ymweliad a Chastell-nedd Port Talbot a gobeithio y dewch yn ol atom cyn bo hir.  

Back to top of page

Link to Directgov

Hawlfraint Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot 2008
Ffôn : 01639 763333 - Ffacs : 01639 763444 - e-bost : webmaster@npt.gov.uk
Achosion Brys yn yr Hwyr, ar y Penwythnos neu yn ystod y Gwyliau